Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 23 Chwefror 2021.
Prif Weinidog, rwyf i wedi codi'r mater hwn o effeithiau'r polisi cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl gan ei bod yn amlwg nad oedd y tair wythnos i lyfnhau'r gromlin yn ddim byd o'r fath. Ni fyddwn ni'n gwybod effeithiau llawn polisi'r cyfyngiadau symud o ran hunanladdiad, argyfyngau iechyd meddwl, canserau ac amseroedd aros am amser maith hyd yma. Wedi dweud hynny, mae'n ymddangos bod eich Llywodraeth yn buddsoddi yn helaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gyda £10 miliwn o gyllid ychwanegol i ymdrin ag effeithiau'r cyfyngiadau symud. A allwch chi ddweud wrth y Siambr sut y cyfrifwyd y swm hwn, os gwelwch yn dda, a sut, yn benodol, y bydd o fudd i'r rhai hynny sy'n ddigon anffodus o fod angen mynediad at wasanaethau iechyd meddwl brys? Diolch.