Gyrfaoedd Mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:10, 23 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth gweithredol i bob merch a menyw ifanc yng Nghymru i astudio pynciau STEM a dilyn gyrfaoedd STEM. Rydym ni'n darparu cyllid blynyddol i sefydliadau STEM yn y sector addysg. Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar gydraddoldeb rhywiol mewn pynciau STEM, i'w gynnal yma yng Nghymru.