Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 23 Chwefror 2021.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Rwy'n sicr yn croesawu'r ffaith bod ysgolion wedi ailagor ddoe ar gyfer plant iau. Un pryder a godwyd gyda mi yw ei bod hi'n ymddangos bod gwisg ysgol yn cael ei hystyried yn eitem nad yw'n hanfodol ac na ellir ei phrynu. Mae siopau esgidiau ar gau, sy'n golygu na ellir mesur plant i gael esgidiau maint bras. Felly, pa gyngor allwch chi ei roi i rieni i'w cynorthwyo i gael gwisg ysgol ac esgidiau cyn i'w plant ddychwelyd i'r ysgol? A pha ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i lacio gwisgo gwisgoedd ysgol mewn ysgolion, o ystyried y ffaith fod plant yn tyfu allan o ddillad ac esgidiau mor gyflym a bod ysgolion ar gau am gyfnodau mor faith?