Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 23 Chwefror 2021.
Yn ôl y Resolution Foundation, Prif Weinidog, mae mwy na hanner yr holl weithwyr gofal yng Nghymru yn cael llai na'r cyflog byw gwirioneddol ar hyn o bryd—cyflogau tlodi, mewn geiriau eraill. Roedd hynny yn annerbyniol cyn y pandemig ac mae'n sicr yn annerbyniol nawr. Nid fy marn i yn unig yw hynny; dyna'r farn a fynegwyd hefyd yn ddiweddar gan ddirprwy arweinydd eich plaid, Angela Rayner, sydd wedi galw ar y Llywodraeth yn Lloegr i ymrwymo i isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal. A ydych chi'n barod i gyfateb yr ymrwymiad hwnnw i isafswm cyflog o £10 yr awr i'r holl weithwyr gofal yma yng Nghymru?