Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 23 Chwefror 2021.
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae brechlynnau'n cael eu rhoi ar hyn o bryd mewn 260 o safleoedd yn y byrddau iechyd sy'n cwmpasu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Rydym ni'n dal ar y trywydd iawn ym mhob rhan o Gymru i gyflawni'r garreg filltir a nodwyd yn ein strategaeth frechu genedlaethol. Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn mynd y tu hwnt i 1 filiwn dos o frechlyn a roddwyd yma yng Nghymru.