Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 23 Chwefror 2021.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad a dadl gyffredinol, os caf i, os gwelwch chi'n dda? Mae'r datganiad cyntaf yn dilyn y cwestiwn blaenorol, mewn gwirionedd. O ran ein profiad o Brexit hyd yn hyn, ni waeth ble'r oeddech chi'n sefyll ar y cwestiwn ei hun, rwy'n credu ei bod yn deg dweud ei fod wedi bod yn drychineb yn ystod y ddau fis diwethaf. Nid yn unig yr ydym wedi gweld yr effaith ar y diwydiant pysgota, ond rydym wedi gweld effaith y fargen wael iawn, y cytunwyd arni cyn y Nadolig, ar y rhan fwyaf o'n prif weithgynhyrchwyr a diwydiannau. Ac mae canlyniadau bod yn drydedd wlad bellach yn golygu goblygiadau gwirioneddol i'n heconomi ac i bobl a'u swyddi a'u bywoliaeth. A yw'n bosibl i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad ynghylch effaith Brexit a'r niwed y mae Brexit yn ei wneud i'n heconomi fel y gallwn ni drafod y materion hyn cyn diddymu'r Senedd?
Mae'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano, Gweinidog, yn ymwneud â llywodraethu'r Deyrnas Unedig. Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol dystiolaeth drawiadol iawn i'r pwyllgor materion allanol ddoe, pan ddisgrifiodd y dirywiad yn y berthynas rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael dadl ar y materion hyn fel y gallwn ddeall yn iawn beth yw'r anawsterau, a hefyd, felly, ddeall y mesurau y gallai'r Senedd hon eu cymryd o ran mynd i'r afael â nhw.
Y mater olaf, Gweinidog, yw dadl gyffredinol ar drefniant busnes yn y Senedd hon. Byddwn ni, ddiwedd y mis nesaf, yn colli nifer o Aelodau profiadol ac uchel eu parch, ac rwy'n credu ei bod yn arfer da iawn trafod nid yn unig ein Rheolau Sefydlog, ond sut yr ydym ni'n trefnu ein hunain ar ddiwedd Senedd i ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Yn sicr, byddai gennyf i ddiddordeb mewn clywed yn benodol gan yr Aelodau hynny sydd wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu dychwelyd yn y Senedd nesaf, er mwyn deall o'u profiad nhw sut y credant y byddai modd gwella'r ffordd yr ydym ni'n rheoli ein hunain ac yn rheoli busnes yn y chweched Senedd. Diolch.