Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 23 Chwefror 2021.
Diolch am godi'r mater y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Addysg yn amlwg wedi bod yn gwrando'n astud iawn ar y cais hwnnw am ddadansoddiad dyfnach, os hoffech chi, o'r ffordd y cafodd y ddarpariaeth hyb ei defnyddio a'r disgyblion sydd wedi elwa ohoni, a gwell dealltwriaeth o'r rhesymau pam na wnaeth rhai ohonynt ymgysylltu â hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi'n ystyried y cais penodol hwnnw o ddifrif.