8. Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 23 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:56, 23 Chwefror 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma; yn wir, rydyn ni wedi cefnogi ymestyn y Ddeddf am beth amser. Un cwestiwn, os y caf i: o ystyried digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf a'r ansicrwydd sydd yna ynglŷn â faint o staff ymroddedig ond blinedig iawn allai ddewis gadael y proffesiwn oherwydd straen y profiad maen nhw wedi bod drwyddo fo, pa mor hyderus ydy'r Gweinidog yn y camau y mae'r Llywodraeth yma wedi'u rhoi mewn lle i alluogi recriwtio a chadw nyrsys er mwyn gallu delifro y rheoliadau yma? A fyddai'r Gweinidog yn derbyn bod eisiau buddsoddiad sylweddol rŵan mewn addysg a hyfforddiant nyrsio i sicrhau bod niferoedd digonol o nyrsus a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn dod i mewn i'r NHS yn y cyfnod heriol iawn sydd o'n blaenau ni?