Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 24 Chwefror 2021.
Yn wir, ni ellir dibynnu ar y system iechyd i nodi canlyniadau andwyol sy'n deillio o feddyginiaeth neu ddyfais benodol yn gyflym. Nid yw'r cynllun cerdyn melyn lle gall meddygon roi gwybod am adweithiau andwyol i driniaethau yn addas i'r diben. Fel y noda Cumberlege, ceir tangofnodi dybryd ac mae ein systemau cwyno yn rhy gymhleth ac yn rhy wasgaredig i ganiatáu ar gyfer canfod arwyddion yn gynnar, ac rwy'n credu bod hynny'n destun pryder mawr. Ac arweiniodd at argymhelliad 7, sy'n galw am gronfeydd data ar bob dyfais, i ganiatáu ar gyfer adnabod cleifion ac archwilio canlyniadau. Mae diffyg gwybodaeth a chronfeydd data yn gwneud y system yn anhryloyw.
Gwendid arall yw'r cyfle i wrthdaro buddiannau godi yn y proffesiwn meddygol. Mae hyn yn arbennig o bwysig, fel y noda'r adroddiad, lle mae gan feddygon gysylltiadau ariannol a chysylltiadau eraill â'r cwmnïau fferylliaeth a dyfeisiau meddygol. Ar hyn o bryd nid oes cofrestr ganolog o fuddiannau ariannol ac anariannol clinigwyr.
Arweiniodd hyn at argymhelliad 8, sy'n galw ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gynnwys rhestr o fuddiannau ariannol ac anariannol. Ac rwy'n falch bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi nodi nad yw'r trefniadau presennol i gofnodi a rheoli buddiannau yn darparu digon o dryloywder a sicrwydd i gleifion. Yn wir, dylwn nodi bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi dangos diddordeb yn y ddadl fer hon a chredaf eu bod wedi sicrhau bod nodyn briffio defnyddiol iawn ar gael i'r Aelodau ac rwy'n croesawu hynny.
Gadewch inni ddychwelyd at lais cleifion. Dyma ychydig o leisiau cleifion a ddyfynnir yn yr adroddiad:
Rwyf wedi gorfod brwydro'n gyson i gael y cymorth a'r driniaeth roeddwn eu hangen gyda'r cymhlethdodau gyda fy rhwyll. Ymddengys bod diwylliant "dibwyllo" a "gwneud esgusodion" yn rhemp.
Ac rwy'n cofio mai claf hŷn a ddywedodd hyn, mae'n debyg, ond defnyddir y term 'dibwyllo' pan fydd rhywun sydd â phŵer yn awgrymu bod y person yn colli ei gof. Rhaid bod y claf wedi mynd drwy brofiad ofnadwy. Claf arall:
mae'r person yr arferwn fod ar un adeg wedi mynd ac nid yw'n ymddangos bod neb yn gallu fy helpu. Nid oes neb yn gwrando.
Claf arall:
Byddent yn dweud wrthych nad oes dim o'i le arnoch chi ac mai dim ond menyw hysterig ydych chi.
Am beth i fod wedi'i awgrymu wrth glaf sy'n dioddef cymhlethdodau yn sgil llawdriniaeth benodol. Ac yn olaf:
Pe bawn i wedi sylweddoli goblygiadau llawn y feddyginiaeth hon, ni fyddwn byth wedi'i chymryd.
Yn achos nodedig Montgomery v Bwrdd Iechyd Lanarkshire, a gynhaliwyd yng Ngoruchaf Lys y DU, barnwyd bod angen i gydsyniad gael ei fframio gan y wybodaeth sydd ei hangen ar glaf unigol. Hawl y claf yw cael gwybod pa wybodaeth bynnag sydd angen iddynt ei gwybod ac mewn modd y gallant ei ddeall fel y gallant wneud penderfyniadau ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â llawdriniaeth neu feddyginiaeth benodol ai peidio. Mewn geiriau eraill, mae angen cydraddoldeb gwirioneddol, partneriaeth wirioneddol yn y broses o wneud penderfyniadau rhwng cleifion a'r meddygon sy'n eu trin. Ond nid yw hyn yn golygu toreth o wybodaeth ar lu o daflenni gwybodaeth i gleifion gan arwain at ddryswch heb fawr o gefnogaeth i'w dehongli, ond yn hytrach, cymhorthion penderfynu effeithiol i gleifion. Mae cymhorthion penderfynu i gleifion yn annog cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau. Maent yn ei gwneud yn haws i gleifion a'r proffesiynau drafod opsiynau triniaeth, a gwneir hyn drwy wybodaeth a thystiolaeth glinigol, trafod manteision, risgiau ac ansicrwydd, cydnabod dewisiadau cleifion, a all fod yn eithaf dwys mewn nifer o feysydd ymarfer meddygol, cymorth i gleifion, fel y cânt eu tywys drwy'r broses o wneud penderfyniadau a chael cyfle i'w deall yn llawn, a chofnodi a gweithredu'r penderfyniadau hyn a wneir ar y cyd. Ac nid ymgynghoriad untro mohono ond yn hytrach, proses sy'n caniatáu amser i gleifion ystyried a deall, a dyna pam y mae angen cofnodi, a gwneud hynny bellach drwy ddefnyddio gwahanol dechnolegau—sain a fideo.
Hoffwn gloi yn awr drwy ofyn i'r Gweinidog yn ei ymateb i ymdrin â'r canlynol: a fydd gan y comisiynydd diogelwch cleifion sydd bellach wedi'i sefydlu gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr rôl yng Nghymru, ac a fydd o bosibl yn benodiad ar gyfer Cymru a Lloegr, neu a fydd swydd debyg yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru, ac os na, pam ddim, a sut y caiff adolygiad Cumberlege yn hyn o beth ei weithredu yng Nghymru; a wnaiff adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn GIG Cymru, ac yn enwedig y defnydd o gymhorthion penderfynu i gleifion, a'u gwella a'u cymhwyso'n gyffredinol fel mater o ymarfer cyffredin; ac yn olaf, a fydd cronfeydd data'n cael eu cadw ar ddyfeisiau, fel y gallwn gael archwiliad priodol a gwerthuso canlyniadau.
Rwy'n gorffen drwy ganmol gwaith y Farwnes Cumberlege unwaith eto a hefyd drwy dalu teyrnged i'r tystion niferus o Gymru a roddodd dystiolaeth. Mae'n bryd inni weithredu ar yr adolygiad rhagorol hwn. Mae ynddo lawer o wersi inni eu dysgu yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.