Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 24 Chwefror 2021.
Cyn dechrau'r drafodaeth yma ar ddyfodol y diwydiant pysgota yng Nghymru, mi hoffwn i gymryd ennyd fach jest i gofio am y tri pysgotwr o ogledd Cymru sydd yn parhau ar goll heddiw, a'u teuluoedd nhw sydd mewn galar. Fe ddiflannodd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath, ynghyd â'u cwch y Nicola Faith, ym mis Ionawr oddi ar arfordir gogledd Cymru, ac mi hoffwn i estyn fy nghydymdeimlad i, ac rwy'n siŵr, y Senedd yma, i'w teuluoedd a nodi ein bod ni yn meddwl amdanyn nhw yn eu galar.
Mae gan Gymru, wrth gwrs, hanes hir a balch o bysgota ar y môr. Mae'r traddodiad yn mynd yn ôl sawl milenia, gyda bwyd o'r môr wedi bod yn rhan ganolog o ddeiet pobl yn y rhan yma o'r byd ar hyd y canrifoedd hynny. Mae gwaith archeolegol yn dangos pentyrrau o gregyn pysgod a fwytawyd yn mynd yn ôl i'r oes Mesolithig ym Mhrestatyn, a dŷn ni'n gwybod am drapiau pysgod hynafol ar hyd a lled arfordir Cymru, fel sydd i'w gweld ar lan yr afon Menai. Felly, mae pysgota a bwyd y môr wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad Cymru, a heddiw, mae'r sector yn parhau i wneud cyfraniad pwysig, yn economaidd, yn amgylcheddol, yn gymdeithasol, ac yn ddiwylliannol hefyd. Mae yna gannoedd o gychod bach o dan 10 metr yn pysgota allan o borthladdoedd Cymru, ac yn cynnal bywoliaeth yn uniongyrchol i filoedd o bobl a'u teuluoedd, ac yn anuniongyrchol, wrth gwrs, i filoedd yn rhagor. Ac mae'r bobl yma sydd yn y diwydiant yn gweld eu hunain fel stiwardiaid i'n moroedd ni a'r cyfoeth o fwyd sydd yn y moroedd hynny sy'n amgylchynu Cymru. Fel ffermwyr ar y tir, mae'r pysgotwyr yma yn adnabod gwely'r môr, a sut mae patrymau'r tymhorau yn effeithio ar y gwahanol ardaloedd hynny.
Felly, beth yw dyfodol y sector hanesyddol a phwysig yma? Wel, fel pob sector, wrth gwrs, maen nhw'n wynebu amryw o heriau, ond mae yna dair brif her sydd yn bygwth pysgotwyr morol Cymru, a'r dair yma, wrth gwrs, yn heriau sy'n wynebu cymdeithas yn ehangach heddiw yn ogystal, sef, yn y lle cyntaf, newid hinsawdd, Brexit hefyd wedi dod â heriau, ynghyd, wrth gwrs, â COVID-19. Mae newid hinsawdd wedi golygu bod y moroedd wedi mynd yn llawer mwy tymhestlog yn ystod y gaeafau. Rŷn ni'n gweld stormydd llawer cryfach, a nifer mwy o stormydd na'r hyn efallai sydd wedi ei weld yn y gorffennol, ac mae hyn yn fygythiad go iawn, yn enwedig, wrth gwrs, gan gofio mai cychod bychain yw'r cychod sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Mae Brexit yn golygu bod un o'r prif farchnadoedd y mae'r sector wedi dibynnu arno fe dros y 40 mlynedd ddiwethaf wedi newid dros nos, wrth i rai mathau o bysgod oedd yn cael eu hallforio yn ddyddiol, fel y cregyn gleision wrth gwrs, gael eu hatal gan nad yw'r wladwriaeth yma bellach o fewn ffiniau yr Undeb Ewropeaidd. Ac yna, mae COVID-19 wedi dod â'r sector lletygarwch i stop, sector, wrth gwrs, yr oedd y diwydiant yn ddibynnol arno fe am werthu eu cynnyrch adref yma yn y farchnad ddomestig. Felly, dyna rai o'r heriau sy'n wynebu'r sector.
Yr her COVID yw'r un amlwg sy'n pwyso fwyaf efallai yn y tymor byr ar y diwydiant. Droeon, rŷn ni'n clywed llefarwyr ar ran y Llywodraeth yn datgan sut mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth mwy hael i fusnesau yma yng Nghymru nag unrhyw Lywodraeth arall yn y Deyrnas Gyfunol, ond nid dyna yw barn y pysgotwyr dwi wedi siarad â nhw, y rhai sy'n teimlo eu bod nhw bron iawn wedi cael eu hanwybyddu yn ystod yr argyfwng yma. Nawr, mae yna un taliad, wrth gwrs, grant o hyd at £10,000 i'r cwch wedi ei gynnig, a hynny'n seiliedig ar gyfartaledd y costau penodol—yr average fixed costs, ac mae hynny i'w groesawu, wrth gwrs ei fod e. Ond dyna’r oll, wrth gwrs. Mewn blwyddyn gyfan. Ac mae'n wir dweud fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cyfrannu rhai miliynau yn fwy diweddar i allforwyr bwyd môr, ond dylai hynny ddim golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i wrando ar lais y sector ac i ymateb i'r hyn maen nhw'n ei glywed er mwyn sicrhau nad yw'r sector yn crebachu yn sgil yr argyfwng presennol.
Mae Llywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon, ac Ynys Manaw wedi cynnig cymorth ychwanegol i'r sector, ond nid felly fan hyn yng Nghymru. Felly, un galwad dwi am ei wneud yn y ddadl hon heddiw yw gofyn i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ychwanegol i'r sector yma, yn enwedig, wrth gwrs, oherwydd yr amgylchiadau presennol, a dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb yn bositif i hynny wrth ymateb i'r ddadl yma.
Yna, wrth gwrs, mae effaith Brexit. Yn hanesyddol, dim ond dau gwch o'r Undeb Ewropeaidd oedd yn pysgota moroedd Cymru, er bod gan hyd at 10 yr hawl i wneud hynny. Ond o dan awdurdod dynodi sengl newydd y Deyrnas Gyfunol, y single issuing authority, yr awgrym yw y bydd hyd at 76 o gychod nawr yn cael caniatâd i bysgota ym moroedd Cymru. Wrth gwrs, mae hyn yn codi cwestiynau mawr ynghylch cynaliadwyedd pysgota ein moroedd ni ar yr un llaw, heb sôn, wrth gwrs, am y posibilrwydd y bydd y diwydiant cynhenid yma yng Nghymru yn cael ei wasgu allan o'n moroedd ymhellach. A ydy hyn wir yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? Ydy e'n gydnaws â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016? Felly, dwi eisiau clywed y prynhawn yma pa gamau mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd. Pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth San Steffan, gan sicrhau bod llais y diwydiant yng Nghymru yn cael ei glywed yng nghoridorau Llywodraeth y Deyrnas Unedig?