Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 24 Chwefror 2021.
Rŷn ni oll, bellach, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r llanast y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i wneud wrth ymdrin â'r diwydiant pysgod cregyn. Does dim angen ailadrodd yr hanes trist yna, ond mae e yn effeithio, wrth gwrs, yn andwyol ar hyfywedd y sector yma yng Nghymru. Cyn Brexit, byddai pysgotwyr pysgod cregyn Cymru yn gallu allforio eu cynnyrch i'r Iseldiroedd, dyweder, er mwyn iddyn nhw gael eu paratoi yno ar gyfer y brif farchnad, sef gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. O dan y gyfundrefn newydd, wrth gwrs, dyw hynny ddim yn bosib. O ganlyniad, mae un o brif farchnadoedd y sector wedi crebachu bron yn llwyr, a hynny dros nos. Mae'n rhaid, felly, inni ddatblygu marchnad newydd ar gyfer y cynnyrch yma, sydd yn cyfrannu degau o filiynau o bunnoedd i'r economi Gymreig bob blwyddyn ac yn cynnal miloedd o swyddi a theuluoedd y rheini, wrth gwrs, sy'n gweithio yn y sector hefyd. Mae'n rhaid edrych i hyrwyddo a hybu y cynnyrch yn y farchnad ddomestig Brydeinig, ond hyd yma does dim arwydd fod y Llywodraeth yn cymryd y camau ychwanegol rhagweithiol yna sydd eu hangen er mwyn gwireddu hynny.
Fel rhan o hynny, mae angen, wrth gwrs, cynyddu y gallu i brosesu'r bwyd yma. Mae'n rhaid cael mwy o gynnyrch i mewn i fwydydd parod ac ar silffoedd y farchnad yma ar ein stepen drws ni yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Mae yna botensial aruthrol i ddatblygu'r sector. Ydy, mae'r sector ar hyn o bryd yn gymharol fychan, ond er gwaethaf ei maint, neu efallai oherwydd hynny, fe all Cymru arwain a dod yn enghraifft o sut fath o beth yw pysgodfeydd sy'n cael eu rheoli yn gynaliadwy, ond mewn ffordd sy'n gweithio i'r amgylchedd, ond hefyd yn gweithio i bysgotwyr. Oherwydd mae pysgodfeydd cynaliadwy yn allweddol i ddiwydiant pysgota cynaliadwy. Mae adroddiad gan Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar bysgodfeydd yn cynnig rhai syniadau ac yn rhoi rhyw fath o lasbrint inni, efallai, ar sut y gellir datblygu gwaith a pholisïau'r Llywodraeth yn y maes yma. Ond pa waith sydd wedi cael ei wneud gan y Llywodraeth i ystyried rhai o'r cynigion yma gyda'r sector? Ac mae'r adroddiad ei hun, wrth gwrs, yn dweud yn glir bod yn rhaid cael cydweithrediad gyda'r sector os yw unrhyw gynlluniau am lwyddo.
Os caf i orffen gydag un ystadegyn reit frawychus a dweud y gwir a rannwyd gyda mi gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru, byddai mantolen o economi Cymru yn dangos bod y sector yma'n werth tua £250 miliwn i'r economi, ac mae'r gwerth diwylliannol a chymdeithasol llawer yn fwy, wrth gwrs, ond mae'n anodd adlewyrchu hynny ar fantolen mewn ffordd, efallai, sy'n gwneud cyfiawnder â'r cyfraniad hwnnw. Ond fe ddylem ni edrych y tu hwnt i'r ffigur moel yna, wrth gwrs, oherwydd amcangyfrifir bod tua 83,000 o dunelli o gynnyrch yn cael ei lanio o foroedd Cymru bob blwyddyn, ond dim ond tua 10 y cant o hwnnw—rhwng 5,000 a 10,000 tunnell y flwyddyn—sy'n cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru. Nawr, mi wnes i sôn mewn cyfraniad arall ddoe i'r Senedd am sut mae dros hanner llaeth Cymru yn mynd dros y ffin i gael ei brosesu, a sut mae'r colli lladd-dai wedi arwain, dros y blynyddoedd, at fwy a mwy o gig yn cael ei brosesu y tu allan i Gymru. Wel, mae ein heconomi fwyd ni yn economi echdynnol—yn extractive economy.
Wel, fe allwn ni ychwanegu bwyd o'r môr i'r rhestr honno hefyd, wrth gwrs. Mae economi Cymru yn colli allan ar 90 y cant o'r cynnyrch sy'n dod o foroedd Cymru. Mae hyn yn amlygu'r potensial aruthrol sydd, wrth gwrs, oddi ar ein harfordir ni i greu diwydiant hyfyw yng Nghymru ac i dyfu cyfraniad y sector hwnnw yn aruthrol. Petai'r addewidion gafodd eu gwneud yn ystod y ddadl ar Brexit wedi'u gwireddu, a bod gennym ni fwy o reolaeth ar ein moroedd—'take back control' oedd y gri, wrth gwrs—yna mi fyddai cyfle i adeiladu dyfodol gwahanol iawn. Ond breuddwyd gwrach oedd hynny, wrth gwrs, a chytundeb trychinebus Boris Johnson yn gwneud y sefyllfa yn fawr gwell.
Yn wir, yn lle'r addewid o fedru lleihau faint o bysgod sy'n cael eu tynnu allan o'r môr gan bysgotwyr tramor, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod y sector gynhenid yn cael mwy o reolaeth o'r moroedd—rhywbeth fyddai wedi bod yn well i'n hamgylchedd morol ni, efallai, ac i'r economi yng Nghymru—yr hyn gawsom ni yw sefyllfa nawr fydd yn arwain at ddifrodi'r amgylched morol yng Nghymru a thanseilio ein heconomi ni, a dwi ddim yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigonol i'r sefyllfa honno, nac wedi dangos digon o awydd nac uchelgais i wneud unrhyw beth adeiladol ynglŷn â hynny, a dyna pam dwi wedi dod â'r ddadl fer yma gerbron y Senedd y prynhawn yma. Mae'n gyfle i'r Gweinidog a'r Llywodraeth i ddangos yr uchelgais y mae'r sector yn awchu i'w glywed—yn wir, yr uchelgais sydd yn rhaid ei gael erbyn hyn er mwyn sicrhau bod y sector yn goroesi: buddsoddi yn y sector, creu seilwaith ar gyfer prosesu, ac adeiladu marchnad ddomestig newydd, ynghyd, wrth gwrs, â datrys yr heriau a fydd yn sicrhau bod mynediad ar gael i farchnadoedd tramor yn y dyfodol. Hyd yn oed heb argyfwng hinsawdd, heb Brexit a heb COVID-19, mi fyddai achos cryf i'r Llywodraeth yma droi pob carreg i greu dyfodol mwy cynaliadwy i'n sector bysgota ar y môr yma yng Nghymru. Yn lle bodloni ar weld y cyfoeth hwnnw'n llifo allan o Gymru, mae angen sicrhau bod y llanw'n troi a bod y cyfoeth hwnnw yn llifo yn ôl i'n cymunedau arfordirol. Diolch.