Parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 1:37, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ategu fy niolch i'r gwasanaeth ambiwlans cyfan am bopeth a wnânt mewn amgylchiadau mor ddirdynnol ac anodd. Weinidog, y mis diwethaf, cafwyd adroddiadau fod pryderon wedi eu mynegi fod rhai staff ambiwlans rheng flaen yn gwrthod cael eu brechu rhag y coronafeirws. Mae hyn yn creu risgiau amlwg wrth gwrs. Cadarnhaodd cyfarwyddwr gweithlu a datblygu sefydliadol gwasanaeth ambiwlans Cymru fod rhai staff wedi gwrthod y brechlyn, ond nad oedd y niferoedd yn cael eu cofnodi. A allwch ddweud wrthym, Weinidog, pam nad yw'r wybodaeth bwysig hon ar gael, ac a allwch roi gwybod i ni pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon y staff ambiwlans sy'n gyndyn o gael y brechlyn? Diolch.