Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:50, 24 Chwefror 2021

Mae yna dal diffyg dealltwriaeth, dwi'n meddwl, o ba mor galed mae COVID yn gallu taro pobl. Hyd yn oed os nad ydy pobl yn gorfod mynd i'r ysbyty, mae'n gallu cymryd wythnosau lawer i rai pobl ddod dros y symptomau cychwynnol. Dwi wedi clywed am un ddynes yn benodol yn cael ei bygwth efo camau disgyblu gan ei chyflogwr oni bai ei bod hi nôl yn y gwaith o fewn pythefnos. Mae hi'n digwydd bod yn well erbyn hyn, ond mi gymerodd fis iddi. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn bod yn gyfrifol, ond efo pob math o straeon i'w clywed am weithwyr yn cael cais i ddefnyddio gwyliau blynyddol i hunanynysu neu i anwybyddu cais i hunanynysu yn llwyr, a wnewch chi fod yn gwbl gadarn ar y mater hwn a gwthio am gamau erlyn os oes angen—a allai fod mor ddifrifol â corporate manslaughter hyd yn oed, yn yr achosion mwyaf difrifol—os oes yna dystiolaeth glir bod cyflogwyr neu eraill yn gweithredu mewn ffordd sydd yn cyfrannu at ledaeniad y feirws?