Parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 1:34, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn gyfnod anhygoel o anodd i bawb yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, o'r parafeddygon sydd wedi bod ar y rheng flaen i'r staff ymroddedig yn yr ystafelloedd rheoli a'r staff sy'n cynnal y gwasanaeth. Yn anffodus, gwelsom yn gynharach y mis hwn fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi colli pedwerydd aelod o staff i’r coronafeirws: Kevin Hughes, 41 oed o Ynys Môn. Mae llawer o aelodau staff wedi blino’n gorfforol ac yn feddyliol oherwydd y pwysau cynyddol ar wasanaeth sydd eisoes yn brysur. Mae angen cymorth a diogelwch, megis cyflenwad o gyfarpar diogelu personol, buddsoddiad mewn cerbydau ac offer, ynghyd â buddsoddiad yn y gweithlu.

A all y Gweinidog amlinellu beth arall y gellir ei wneud i gefnogi gweithlu ein gwasanaeth ambiwlans, dros y misoedd nesaf, ac wrth inni gefnu ar y pandemig?