Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 24 Chwefror 2021.
Ydw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pawb, waeth beth fo'u gwleidyddiaeth, yn cydnabod y llwyddiant gwych y mae rhaglen frechu Cymru wedi'i gael. Mae gwaith caled, ymroddiad, sgiliau ac arbenigedd ein staff, ein partneriaid yn y lluoedd arfog, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol wedi dangos ein bod wedi gwneud defnydd da o'r wythnosau cyntaf, pan oedd ein cyfradd gyflenwi'n arafach na gwledydd eraill y DU, er mwyn cynllunio ar gyfer gallu mynd yn llawer cyflymach. Dyna pam ein bod ar frig y tabl yn y pedair gwlad ar hyn o bryd o ran y ganran gyffredinol o'r boblogaeth sydd wedi cael eu brechlyn a nifer yr oedolion sydd wedi cael eu brechlyn hefyd, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu cyflwyno ymhellach yn llwyddiannus yng ngrwpiau 5 i 9, ac yna i weddill y boblogaeth oedolion. Gobeithio y bydd y bobl a oedd yn feirniadol yn rhoi eu cefnogaeth lwyr yn awr ac yn rhoi clod i'r Llywodraeth hon a'n gwasanaeth iechyd gwladol gwych am lwyddiant rhyfeddol y rhaglen frechu yng Nghymru.