2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y rhaglen frechu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56298
Diolch. Llwyddasom i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf i gynnig brechiad i'r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu erbyn canol mis Chwefror. Rydym yn y sefyllfa ffodus o fod y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Rydym yn gwneud cynnydd da tuag at y garreg filltir nesaf, sydd, yn amodol ar gyflenwad, i gynnig brechiad i grwpiau 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill. Yn Alun a Glannau Dyfrdwy, rwy'n falch o ddweud bod pob practis meddyg teulu yn helpu i gyflawni ein rhaglen frechu lwyddiannus.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog, a'r wybodaeth bwysig ynddo. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod gan yr Aelodau o'r Senedd gyfrifoldeb i weithredu fel arweinwyr yn eu cymunedau, ac ers dechrau'r rhaglen frechu, rwyf wedi ceisio gweithio gyda'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru drwy fy ymgyrch i frechu Sir y Fflint er mwyn cynorthwyo a chefnogi'r broses o gyflwyno'r brechlyn lle gallaf wneud hynny. Nawr, roedd gan Aelodau eraill o'r Siambr hon lawer i'w ddweud yn ystod y dyddiau cyntaf, a bron yn mynnu gwybod pam nad oedd y boblogaeth wedi cael ei brechu ar unwaith. Nawr, ers peth amser, dan arweiniad gwych ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ac ar draws Ewrop, ac mae beirniaid y dyddiau cynnar wedi distewi. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn llongyfarch yn gyhoeddus a rhoi anogaeth i bawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu?
Ydw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pawb, waeth beth fo'u gwleidyddiaeth, yn cydnabod y llwyddiant gwych y mae rhaglen frechu Cymru wedi'i gael. Mae gwaith caled, ymroddiad, sgiliau ac arbenigedd ein staff, ein partneriaid yn y lluoedd arfog, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol wedi dangos ein bod wedi gwneud defnydd da o'r wythnosau cyntaf, pan oedd ein cyfradd gyflenwi'n arafach na gwledydd eraill y DU, er mwyn cynllunio ar gyfer gallu mynd yn llawer cyflymach. Dyna pam ein bod ar frig y tabl yn y pedair gwlad ar hyn o bryd o ran y ganran gyffredinol o'r boblogaeth sydd wedi cael eu brechlyn a nifer yr oedolion sydd wedi cael eu brechlyn hefyd, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn cael eu cyflwyno ymhellach yn llwyddiannus yng ngrwpiau 5 i 9, ac yna i weddill y boblogaeth oedolion. Gobeithio y bydd y bobl a oedd yn feirniadol yn rhoi eu cefnogaeth lwyr yn awr ac yn rhoi clod i'r Llywodraeth hon a'n gwasanaeth iechyd gwladol gwych am lwyddiant rhyfeddol y rhaglen frechu yng Nghymru.
Roedd y strategaeth frechu genedlaethol hyd at 14 Chwefror yn cynnwys staff cartrefi gofal, ond dywedodd Fforwm Gofal Cymru yr wythnos diwethaf fod penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i seilio ffioedd cartrefi gofal ar dalu'r isafswm cyflog i hanner y staff yn sarhad ar weithwyr gofal sy'n rhoi eu bywydau eu hunain yn y fantol ac sydd wedi gwneud eu gorau glas mewn modd arwrol i ddiogelu eu preswylwyr rhag pandemig marwol y coronafeirws. Wrth ymateb, dywedodd cyngor Sir y Fflint wrthyf, 'Nid mater lleol yw hwn ac rydym yn gweithio yn ôl fformiwlâu ariannu rhanbarthol wrth ddyrannu cyllid, a chytunasom ar y codiadau blynyddol ar y cyd â darparwyr comisiynu.' Wrth ymateb i hyn, fodd bynnag, dywedodd Fforwm Gofal Cymru wrthyf, 'Nid wyf yn credu y dowch o hyd i un darparwr cartref gofal annibynnol a fyddai'n cytuno bod y cynnydd yn ffioedd Sir y Fflint ar gyfer 2021-22 wedi'i gytuno ar y cyd â darparwyr.' Sut rydych yn ymateb felly i'w cwestiwn pam fod ffioedd gogledd Cymru wedi mynd o frig y gynghrair i'r gwaelod erbyn hyn, pan fo pob tystiolaeth yn dangos bod dibyniaeth preswylwyr mewn cartrefi gofal yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn enwedig yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi cynyddu'n sylweddol?
Wel, rwy'n hyderus iawn nad oes a wnelo'r cwestiwn dilynol ddim â llwyddiant y rhaglen frechu yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond fel y gwyddoch, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddyfodol mwy hirdymor i adolygu nid yn unig y ffordd y trefnir y sector gofal cymdeithasol ond sut rydym yn ei ariannu, sut rydym yn gwobrwyo ein staff. Edrychaf ymlaen at weld pob plaid yn cyflwyno eu ffyrdd amgen o ariannu gofal cymdeithasol yn briodol yn y dyfodol yn y maniffestos nesaf y byddwn i gyd yn eu rhoi gerbron pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r Siambr hon cyn diwedd y tymor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal, ac edrychaf ymlaen at weld Aelodau Ceidwadol yn dod o hyd i ffyrdd newydd o roi adnoddau ychwanegol tuag at ein system gofal cymdeithasol yn hytrach na mynnu adnoddau ychwanegol heb nodi o ble y dylai'r arian hwnnw ddod.