Triniaeth Orthopedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:06, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, Weinidog, mae rhestrau aros ar lefelau nad ydym wedi'u gweld ers blynyddoedd. Bydd nifer ar y rhestrau aros hynny'n cael eu derbyn fel achosion argyfwng i'r ysbyty cyn bo hir ar ôl i'w hansawdd bywyd gael ei ddinistrio gan boen ac anabledd. Mae etholwyr yn adrodd am wasanaeth iechyd nad yw'n ofal COVID sy'n dameidiog ac anwastad iawn ar draws y rhanbarth, gan awgrymu ein bod yn wynebu math gwahanol iawn o argyfwng i'r GIG, ond argyfwng serch hynny. Rydych wedi dweud bod yna gynllun, fod gennych chi gynllun. Pryd y gwelwn y cynllun hwn i allu craffu arno, a pha bryd y dechreuir ei weithredu? Diolch.