2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru? OQ56314
Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu eu cynlluniau orthopedig a'u cefnogi i addasu eu darpariaeth i ddiwallu'r anghenion newidiol a achoswyd gan COVID-19, gan gynnwys y cynnydd sylweddol yn yr amseroedd aros am driniaeth orthopedig.
Diolch. Mae hyn yn dilyn cyfraniad fy nghyd-Aelod Angela Burns mewn gwirionedd, a'r pryderon ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd gyda thriniaeth. Felly, rwyf wedi bod yn cysylltu â phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn gynharach y mis hwn, anfonodd lythyr ataf a oedd yn datgan, a dyfynnaf, gyda'r nifer fach o lawdriniaethau dewisol rydym wedi gallu eu cyflawni dros y 12 mis diwethaf, mae amseroedd aros wedi cynyddu'n sylweddol.
Roeddwn yn ysgrifennu ati am etholwr a fu'n aros yn hir mewn poen aruthrol. Dywedodd fod gan un meddyg ymgynghorol, Mr Ganapathi, fwy na 450 o gleifion yn aros am driniaeth erbyn hyn, ac yn ôl y prif weithredwr, mae dros 350 o'r rhain wedi aros yn hwy na fy etholwr a atgyfeiriwyd—gwrandewch ar hyn—i gael dau ben-glin newydd ym mis Tachwedd 2017, ymhell cyn ein pandemig, Weinidog. Felly, er ein bod yn cydnabod y pwysau a achoswyd gan COVID-19 ac yn croesawu'r newyddion fod uned gofal ôl-anaesthesia newydd wedi agor yn Ysbyty Gwynedd, mae'r dystiolaeth yn glir fod triniaeth orthopedig yn wynebu argyfwng yma yng ngogledd Cymru. Felly, rhowch wybod pa gamau rydych yn eu cymryd i helpu i hwyluso mwy o lawdriniaethau achosion dydd a chleifion mewnol, ac a ellir ystyried cynyddu partneriaeth y bwrdd iechyd ag ymddiriedolaethau yn Lloegr, a dod i drefniant gyda mwy na dim ond dau, fel bod modd cynnig llawdriniaeth i gleifion y tu allan i'r bwrdd iechyd hwn. Diolch.
Rwy'n credu bod sawl peth yno. Y cyntaf yw cydnabod bod her eisoes gyda'r ddarpariaeth orthopedig yng ngogledd Cymru cyn y pandemig. Roeddem yn gweld cynnydd mewn gweithgaredd yng ngogledd Cymru, ond roedd yn arafach na'r galw, felly roedd rhestrau'n mynd yn hwy ar gyfer triniaeth orthopedig at ei gilydd. Ni ellir gwadu hynny.
Yr ail bwynt serch hynny yw bod hynny wedi'i waethygu hyd yn oed ymhellach yn ystod y pandemig. Fel y gŵyr yr Aelodau, gwelwyd tarfu sylweddol ar ofal a thriniaeth arferol, felly mae'r rhestr aros orthopedig wedi tyfu hyd yn oed ymhellach yn ystod y pandemig, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled y wlad gyfan. Ein her yw sut y mae cyrraedd system gynaliadwy a sut rydym yn ymdrin â'r ôl-groniad mawr sydd wedi datblygu. Gyda phob parch, nid wyf yn credu bod partneriaethau ag ymddiriedolaethau'r GIG yn Lloegr yn debygol o fynd i'r afael â mater yr ôl-groniad na gwasanaeth cynaliadwy. Y rheswm am hynny yw bod angen i'r system yn Lloegr gyrraedd pwynt lle mae'n fwy cytbwys hefyd. Ni fyddwn yn gallu prynu ein ffordd drwy hyn drwy gyflawni mwy o weithgarwch yn y sector preifat yn unig. Bydd angen inni gael dull gweithredu priodol y credaf ei fod yn gyson â gwerthoedd y GIG yma yng Nghymru.
Mae'n werth ystyried bod Lloegr hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu rhestrau aros orthopedig; ni fydd capasiti yn y GIG yn Lloegr i ni wneud defnydd ohono am beth amser i ddod. Felly, mae hynny'n golygu bod angen inni ddod o hyd i ddull gweithredu yma yng Nghymru sy'n deall natur ein her, sut y mae cyrraedd system sy'n gynaliadwy ac ar yr un pryd, o ran staff sy'n mynd i fod wedi ymlâdd erbyn pan ddaw argyfwng y pandemig i ben yn y diwedd, sut y gallwn gynhyrchu mwy fyth o weithgaredd i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Nid yw hon yn her syml i'w goresgyn, a bydd angen i ni symud y tu hwnt i atebion gor-syml 'gweithio'n galetach' neu 'wario mwy o arian'. Bydd angen inni arloesi gyda'r ffordd y mae ein GIG yn parhau i weithredu gwasanaeth cyhoeddus sy'n cyflawni yn erbyn yr heriau enfawr sy'n ei wynebu.
Fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, Weinidog, mae rhestrau aros ar lefelau nad ydym wedi'u gweld ers blynyddoedd. Bydd nifer ar y rhestrau aros hynny'n cael eu derbyn fel achosion argyfwng i'r ysbyty cyn bo hir ar ôl i'w hansawdd bywyd gael ei ddinistrio gan boen ac anabledd. Mae etholwyr yn adrodd am wasanaeth iechyd nad yw'n ofal COVID sy'n dameidiog ac anwastad iawn ar draws y rhanbarth, gan awgrymu ein bod yn wynebu math gwahanol iawn o argyfwng i'r GIG, ond argyfwng serch hynny. Rydych wedi dweud bod yna gynllun, fod gennych chi gynllun. Pryd y gwelwn y cynllun hwn i allu craffu arno, a pha bryd y dechreuir ei weithredu? Diolch.
Fel y dywedais, rydym yn disgwyl cyhoeddi cynllun adfer y GIG cyn diwedd mis Mawrth. Byddwn am i Aelodau allu gweld y cynllun hwnnw cyn inni symud i gyfnod yr etholiad. Rwy'n credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond yn fwy na hynny, o ran gweld y gweithgaredd hwnnw'n gwella, mae hynny'n dibynnu mewn gwirionedd ar drywydd y pandemig. Pan fo gennym unedau gofal critigol o hyd sydd ar 115 y cant o'u capasiti, pan fo gennym niferoedd sylweddol o gleifion COVID yn ein hysbytai o hyd, nid yw'n rhesymol disgwyl i'r GIG ailgynhyrchu'r un lefel o weithgarwch dewisol arferol ag yr arferem ei weld fwy na blwyddyn yn ôl.
Mae gennym hefyd y gofynion ychwanegol ar gyfer cyfarpar diogelu personol y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt—cyflenwi cyfarpar diogelu personol—yn ei chwestiwn cyntaf. Mae hynny'n golygu na allwn gyflawni cymaint o weithgarwch yn yr un diwrnod. Felly, mae gennym nifer o anfanteision gwirioneddol i'r GIG mewn perthynas â chadw ein staff a'n pobl yn ddiogel wrth gyflawni gweithgarwch. Felly, bydd hyn yn anodd. Y cynllun, fel y dywedais—y cynllun adfer—gallwch ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth. Wrth gwrs, bydd y pandemig yn helpu i benderfynu pryd y gallwn ddechrau cyflawni rhywfaint o hyn, yn ogystal â'r gwaith y mae ein sefydliadau GIG eisoes yn ei wneud i gynllunio a chyflawni'r gweithgarwch pellach hwnnw.