Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Chwefror 2021.
Wel, rwy'n hyderus iawn nad oes a wnelo'r cwestiwn dilynol ddim â llwyddiant y rhaglen frechu yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ond fel y gwyddoch, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddyfodol mwy hirdymor i adolygu nid yn unig y ffordd y trefnir y sector gofal cymdeithasol ond sut rydym yn ei ariannu, sut rydym yn gwobrwyo ein staff. Edrychaf ymlaen at weld pob plaid yn cyflwyno eu ffyrdd amgen o ariannu gofal cymdeithasol yn briodol yn y dyfodol yn y maniffestos nesaf y byddwn i gyd yn eu rhoi gerbron pobl Cymru. Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i'r Siambr hon cyn diwedd y tymor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal, ac edrychaf ymlaen at weld Aelodau Ceidwadol yn dod o hyd i ffyrdd newydd o roi adnoddau ychwanegol tuag at ein system gofal cymdeithasol yn hytrach na mynnu adnoddau ychwanegol heb nodi o ble y dylai'r arian hwnnw ddod.