Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Weinidog. Mae'r sector awyrofod yn werth mwy nag £1.4 biliwn yng Nghymru ac mae'n cyflogi dros 11,000 o weithwyr, gan gynnwys llawer o bobl o Dorfaen. Fodd bynnag, mae'r pandemig COVID wedi'i daro'n wael iawn, ac mae'n ddigon posibl nad oes gan y gweithleoedd hynny adnoddau na gallu i gynnal eu profion eu hunain yn y gweithle. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y strategaeth newydd a gyhoeddwyd gennych heddiw yn blaenoriaethu gweithleoedd fel hyn y mae gwir angen inni eu cadw ar gyfer swyddi medrus iawn o ansawdd uchel yng Nghymru?