Ymwelwyr Iechyd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:13, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Darparodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar ddarparu rhaglen Plant Iach Cymru gan ymwelwyr iechyd yn ystod y pandemig, er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu gweld a bod teuluoedd yn cael eu cefnogi cyn belled ag y bo modd. Rydym yn ymwybodol y gallai ymwelwyr iechyd fod wedi'u hadleoli i feysydd acíwt eraill os oedd niferoedd y gweithlu'n caniatáu pan oedd y pandemig ar ei waethaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'n digwydd ar hyn o bryd.