Gwasanaethau Deintyddol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:21, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym yn parhau i ailsefydlu gwasanaethau deintyddol y GIG yn ddiogel ac yn raddol. Mae practisau deintyddol bellach yn darparu ystod lawn o driniaethau i gleifion. Gan fod COVID-19 yn dal i ledaenu, mae angen mesurau iechyd y cyhoedd o hyd er mwyn sicrhau amgylchedd diogel. Bydd hyn yn golygu bod llai o gleifion yn cael eu trin ym mhob sesiwn glinigol.