Profion Asymptomatig yn y Gweithle

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:18, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, tybed a allech roi rhyw syniad inni o'r hyn sydd wedi'i ddysgu o geisio cynnal profion mewn ysgolion. Oherwydd, fel y soniais o'r blaen, yn fy rhanbarth i yn sicr, roedd datgysylltiad pendant ar un adeg rhwng staff ysgolion ac arweinwyr y GIG ynglŷn â phwy ddylai gymryd cyfrifoldeb am weinyddu profion llif unffordd. Felly, tybed a allwch roi syniad inni nawr pwy ddylai arwain yn y gweithle—ym mha sector bynnag sydd dan sylw? A sut yr adleolir gweithwyr na allant neu nad ydynt yn dymuno cael prawf?