Y Rhaglen Frechu

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:08, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Llwyddasom i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf i gynnig brechiad i'r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu erbyn canol mis Chwefror. Rydym yn y sefyllfa ffodus o fod y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Rydym yn gwneud cynnydd da tuag at y garreg filltir nesaf, sydd, yn amodol ar gyflenwad, i gynnig brechiad i grwpiau 5 i 9 erbyn canol mis Ebrill. Yn Alun a Glannau Dyfrdwy, rwy'n falch o ddweud bod pob practis meddyg teulu yn helpu i gyflawni ein rhaglen frechu lwyddiannus.