Safleoedd Gwersylla a Safleoedd Carafannau Domestig

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:37, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu y byddwch yn gwybod o'r adegau eraill rwyf wedi siarad am hyn mai fi yw'r person olaf i ofyn iddo am ddyddiadau mewn perthynas â materion iechyd cyhoeddus, oherwydd, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym wedi mabwysiadu'r ymagwedd gadarn iawn fod yn rhaid i bopeth a wnawn fod yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. Rwy'n ymwybodol fod y Llywodraeth dros y ffin yn Lloegr wedi penderfynu cyhoeddi dyddiadau. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dyddiadau, ac yn sicr nid wyf yn bwriadu cyhoeddi unrhyw ddyddiadau y prynhawn yma. Ond byddaf yn sicr yn ystyried eich pwynt y dylem sicrhau bod ein holl fusnesau sy'n darparu ffordd mor werthfawr o fwynhau cefn gwlad Cymru, fel sy'n cael ei ddarparu gan y safleoedd carafannau a gwersylla hyn—fod yr holl fusnesau hyn yn cael gwybod mewn da bryd pryd y byddant yn cael ailagor.