Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 24 Chwefror 2021.
Weinidog, defnyddiwyd y slogan 'Hwyl fawr. Am y tro.' yn effeithiol iawn y llynedd. Mae'r rhai sy'n defnyddio carafannau yng Nghymru yn aml yn bobl sy'n berchen ar eu carafannau eu hunain, fel y dywedodd Darren, ac mae dod i Gymru yn teimlo fel dod adref iddynt hwy. Rwy'n pryderu'n fawr er hynny am y rhethreg wrth-Seisnig, wrth-ymwelwyr a ddefnyddir yng Nghymru, a hefyd yn yr Alban. Mae llawer o berchnogion carafannau wedi sylwi arni, ac maent yn dweud nad ydynt yn teimlo bod croeso iddynt ac maent yn ystyried gadael yn gyfan gwbl. A wnewch chi gondemnio rhethreg o'r fath, a rhoi sicrwydd y bydd ymwelwyr, pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny, yn cael y croeso cynnes y maent wedi dod i'w ddisgwyl dros y blynyddoedd? Diolch.