Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 24 Chwefror 2021.
Weinidog, yn y pwyllgor iechyd y bore yma, clywodd Jayne Bryant a minnau am yr effaith iechyd meddwl ar staff nyrsio, a'r angen iddynt gael cyfle i orffwys ac ymadfer. Ac felly mae nifer yn gweithio oriau hir, llawer mwy na'r hyn y dylent fod yn ei wneud, gan eu bod yn teimlo'r cyfrifoldeb i wneud hynny, ond mae angen iddynt gael seibiant a gofalu amdanynt eu hunain. Ond yn ogystal â hyn, ac fel rhan o ymateb GIG Lloegr, maent wedi creu hybiau. Mae'r hybiau hyn yn rhad ac am ddim ac yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol i staff y GIG sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gofalu am filiynau o bobl â'r coronafeirws, tra'n cynnal gwasanaethau hanfodol fel mamolaeth, iechyd meddwl a gofal canser. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i astudio'r mesurau hyn i weld a allai camau tebyg fod o fudd i staff y GIG yma yng Nghymru? Diolch.