3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo iechyd meddwl gweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig? OQ56313
Wel, hoffwn gydnabod y diddordeb gwirioneddol y mae Jayne Bryant wedi'i ddangos yn y mater hwn. Rwy'n gwybod ei bod newydd ofyn cwestiwn ar bwnc tebyg i'r Gweinidog iechyd, ac rwy'n credu ei bod yn hollol iawn i ganolbwyntio ar hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y galwadau corfforol ac emosiynol anhygoel sy'n wynebu ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol, ac rydym yn monitro'r effaith yn agos iawn ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth ychwanegol uniongyrchol i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fis diwethaf, gallais gynnal dadl fer i dynnu sylw at y pwysau ar ein staff GIG a gofal cymdeithasol rheng flaen a'r hyn y maent wedi'i brofi dros y flwyddyn ddiwethaf. Cefais y fraint o ddarllen datganiadau pwerus ac emosiynol gan nyrsys, cynorthwywyr theatr, parafeddygon ac ymarferwyr ynglŷn â realiti wynebu'r feirws. Mae staff wedi ymlâdd, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac mae gan lawer deimladau o alar ac euogrwydd. Mae'n amlwg y bydd canlyniadau COVID yn cael eu teimlo gan y rhai ar y rheng flaen am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n debygol o esgor ar broblemau iechyd meddwl a phobl yn cwestiynu a ydynt yn dal i fod eisiau, neu'n gallu, aros yn y swydd oherwydd lludded. Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'n GIG a'n gweithlu gofal cymdeithasol fel ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ofalu am y rhai sy'n gofalu amdanom ni?
Diolch yn fawr iawn, Jayne. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch iawn ein bod wedi gallu rhoi £1 filiwn ychwanegol i wella cefnogaeth y rhaglen sydd gennym, Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru, a'r gefnogaeth seicolegol honno, sy'n cynnwys llinell gymorth. Mae'r Samariaid yno'n benodol i helpu pobl; mae meddyg ar gael a fydd yn gallu ffonio'n ôl o fewn 24 awr. A'r hyn sy'n wirioneddol wych yw ein bod yn gwybod bod ymateb da iawn wedi bod i'r ddarpariaeth hon.
Ers y ddadl honno, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac roeddent yn amlwg iawn yn ceisio disgrifio'r math o drawma y mae pobl ar y rheng flaen wedi bod yn ei brofi, ac maent yn gwybod nad yw hwnnw'n drawma y gallwch ei wthio i'r cyrion, mae'n rhywbeth—. Nid ydynt wedi cael cyfle i brosesu'r hyn y maent wedi'i brofi ar y rheng flaen, ac maent yn ymwybodol iawn, o ran y profiad dwys y maent yn byw drwyddo ar hyn o bryd, pan fydd ganddynt amser i brosesu hwnnw, dyna pryd y gallai'r effaith eu taro. Ac felly roeddent yn awyddus iawn i bwysleisio na fydd beth bynnag rydym yn ei roi ar waith yn awr yn gallu cael ei dynnu'n ôl, oherwydd y trawma mwy hirdymor y mae'n rhaid inni ei ystyried, bydd yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu'r gefnogaeth honno ar gyfer y tymor hwy, felly rwy'n falch iawn o weld hynny. Yn ogystal, rwy'n falch iawn o weld bod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i'r gefnogaeth a roddwn i Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru.
Weinidog, yn y pwyllgor iechyd y bore yma, clywodd Jayne Bryant a minnau am yr effaith iechyd meddwl ar staff nyrsio, a'r angen iddynt gael cyfle i orffwys ac ymadfer. Ac felly mae nifer yn gweithio oriau hir, llawer mwy na'r hyn y dylent fod yn ei wneud, gan eu bod yn teimlo'r cyfrifoldeb i wneud hynny, ond mae angen iddynt gael seibiant a gofalu amdanynt eu hunain. Ond yn ogystal â hyn, ac fel rhan o ymateb GIG Lloegr, maent wedi creu hybiau. Mae'r hybiau hyn yn rhad ac am ddim ac yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol i staff y GIG sydd, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi gofalu am filiynau o bobl â'r coronafeirws, tra'n cynnal gwasanaethau hanfodol fel mamolaeth, iechyd meddwl a gofal canser. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i astudio'r mesurau hyn i weld a allai camau tebyg fod o fudd i staff y GIG yma yng Nghymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Laura. Wel, nid ydym yn sefydlu'r rhaglenni hyn heb ymgynghori â phobl i ofyn iddynt beth y maent ei eisiau, beth sy'n ystyrlon ac yn ddefnyddiol iddynt. Un o'r grwpiau rwyf wedi bod yn siarad â hwy—. Un o'r problemau, wrth gwrs, yw ein bod wedi darparu llawer o gymorth, ond roeddwn yn clywed nad oes gan rai pobl amser i wneud defnydd o'r cymorth hwnnw. Felly, os ydynt yn cyrraedd yn y bore, maent yn teimlo bod yn rhaid iddynt ddal ati i wneud eu gwaith yn ystod y dydd, ac erbyn diwedd eu shifft maent wedi ymlâdd. Felly, pryd y gallant wneud defnydd o'r cymorth rydym yn ei gynnig iddynt? Felly, rydych yn llygad eich lle: mae angen inni sicrhau bod rhywfaint o le i ganiatáu i bobl ddefnyddio'r cymorth ar adeg sy'n gyfleus iddynt hwy. Wrth gwrs, mae gennym ddewisiadau eraill; mae gennym gymorth ar-lein y gallant gael mynediad ato hefyd. Ond rwy'n credu y bydd yn rhaid inni feddwl yn ofalus iawn, pan welwn ostyngiad yn y niferoedd mewn perthynas â'r feirws, er gwaethaf y pwysau a nododd Angela yn gynharach heddiw—nifer y bobl sy'n aros—mae'n rhaid inni feddwl am ofalu am y staff rheng flaen a sicrhau eu bod yn cael rhyw fath o seibiant. Rwy'n credu y bydd yn rhaid inni ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru fod ychydig yn amyneddgar i roi amser i'r bobl hyn anadlu fel y gallant fwrw ymlaen â'u gwaith, oherwydd y peth olaf rydym eisiau ei weld yw'r bobl hyn yn gadael y GIG.