Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:39, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gadeirydd. Weinidog, yn ein sesiwn ar y cyd â'r Senedd Ieuenctid, byddwch wedi clywed y pwyslais y maent yn ei roi ar lesiant ac iechyd meddwl da. Bydd llawer ohonynt yn ymuno â'r gweithlu cyn bo hir, felly hoffwn ofyn pa gynlluniau sydd ar waith, wrth inni symud tuag at ddiwedd y cyfyngiadau symud, i gefnogi gweithleoedd sy'n hyrwyddo llesiant ac iechyd meddwl da.