Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 24 Chwefror 2021.
Siŵr o fod bydd cyn-bennaeth ysgol Penderyn yn falch iawn i glywed y newyddion yna. Weinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i sefydlu cronfa Gymraeg ddigidol i gefnogi mwy o ddefnydd o Gymraeg bob dydd yn y gofod digidol? Fel y gwyddoch, rwy'n awyddus i weld Cymraeg bob dydd yn cael ei normaleiddio mewn sefyllfaoedd bob dydd. Mae hon yn iaith i bawb, nid dim ond i rai cymunedau neu rhai rolau yn y sector cyhoeddus, ac, wrth gwrs, mae'r byd digidol yn rhan gynyddol o'n bywyd bob dydd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn mynd i gynnwys rhywbeth o'r fath yn ein maniffesto i annog a chefnogi hwyluso ei defnydd ar-lein, a gobeithio eich bod chi'n cytuno â'r syniad.