Iechyd Meddwl Gweithlu’r GIG a Gofal Cymdeithasol

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:53, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, hoffwn gydnabod y diddordeb gwirioneddol y mae Jayne Bryant wedi'i ddangos yn y mater hwn. Rwy'n gwybod ei bod newydd ofyn cwestiwn ar bwnc tebyg i'r Gweinidog iechyd, ac rwy'n credu ei bod yn hollol iawn i ganolbwyntio ar hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gydnabod y galwadau corfforol ac emosiynol anhygoel sy'n wynebu ein gweithlu GIG a gofal cymdeithasol, ac rydym yn monitro'r effaith yn agos iawn ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymorth ychwanegol uniongyrchol i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol pobl.