Hunanladdiadau

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:05, 24 Chwefror 2021

Rydym wedi sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig ac wedi buddsoddi mewn amrywiol ddulliau er mwyn gwella cymorth. Mae atal hunanladdiad yn fater cymhleth ac mae’n galw am ymateb amlasiantaeth. Rydym wedi cryfhau trefniadau, felly, i wella’r ffordd y mae camau gweithredu’n cael eu cydlynu gyda’n partneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a’r trydydd sector.