Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 24 Chwefror 2021.
Dwi'n ymwybodol o'r sefyllfa a'r pwysau sydd ar y diwydiant yn Ynys Môn. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi'n fawr y berthynas sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a llywodraeth leol Ynys Môn dan arweiniad cadarn, fel y mae o, ac mae'n dda gen i ddweud ein bod ni'n parhau i chwilio am ffyrdd o gydweithio a hefyd o geisio cyllid digonol yn ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.