Busnesau Twristiaeth

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:15, 24 Chwefror 2021

Diolch. Yn sicr, mae'r sector angen rhagor o gefnogaeth. Maen nhw'n dal yn fusnesau sydd dim ond yn cael ychydig o gefnogaeth, neu brin ddim o gwbl—pobl sy'n hunan-gyflogedig, y rhai sydd ddim yn talu staff trwy PAYE, busnesau sydd wedi agor yn rhy agos at ddechrau'r cyfnod clo gwreiddiol, y rhai sydd yn cael y cymhorthdal incwm hunan-gyflogaeth, ac felly ddim wedi cael gwneud ceisiadau am grants o'r gronfa gymorth benodol i'r sector. Mae yna ddryswch—un gronfa yn edrych ar elw masnachu wrth weithio allan y trothwy am gymorth, ac un arall ar drosiant. Dwi wedi cael cyswllt heddiw, yn digwydd bod, gan gwmni yn rhedeg sawl bwyty, ac mae'r staff ar ffyrlo, ond dydy'r perchnogion ddim yn gallu talu nhw eu hunain, achos does yna ddim elw i gymryd dim byd allan ohono fo.

Maen nhw'n straeon cyffredin iawn, iawn. Dwi eisiau'r sector yma fod yn ffit ac yn iach i allu ailddechrau. Felly, gaf i ofyn beth ydych chi'n mynd i wneud rŵan i drio ceisio cau'r bylchau yma o hyd? Ac efo 'normal' yn mynd i fod yn wahanol iawn i sut oedd pethau cynt, pan mae pethau'n ailagor—llai o gwsmeriaid mewn bwytai, cwmni bysys yn methu gweithio am yn hir iawn, mae'n siŵr—sut ydych chi'n gobeithio helpu busnesau wrth ailagor fesul cam? Pryd gawn ni'r math o gynllun adfer y bydd yn adfer hyder y sector yn y dyfodol?