Busnesau Twristiaeth

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:16, 24 Chwefror 2021

Wel, mae'r cyfan rydyn ni'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru wedi'i fwriadu i adfer y sector dwristiaeth, a sectorau eraill. Rydyn ni wedi sicrhau bron i £3 miliwn ar gyfer bron i 200 o fusnesau twristiaeth ar Ynys Môn. Mae hynny'n ychwanegol at y grantiau dewisol sydd wedi cael eu dyrannu'n effeithiol iawn gan yr awdurdod lleol. Mi fydd hynny yn sicr yn parhau.

Dwi'n dal i gwrdd yn gyson gyda Gweinidogion twristiaeth gweddill y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yna bwysau clir yn cael ei roi ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan fy nghyd-Weinidog yn Lloegr, oherwydd ei fod o'n cynrychioli ardal wledig â thwristaidd, digon tebyg i beth sydd gyda ni yng Nghymru. Fel yna rydyn ni'n ceisio gweithio.

Mi garwn i gael mwy o wybodaeth am unrhyw un sydd yn cael anhawster fel hyn, lle maen nhw'n syrthio rhwng y cynlluniau sydd gan y Deyrnas Unedig a'r cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mi wnawn ni ymchwilio iddyn nhw.