Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 24 Chwefror 2021.
Yn sicr, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau a fydd yn gweld Cymru gyfan yn cael ei dynodi'n barth perygl nitradau o 1 Ebrill wedi achosi llawer iawn o rwystredigaeth a phryder i ffermwyr yn fy etholaeth. Mae nifer y negeseuon e-bost rwyf wedi'u cael ar y mater hwn yn dangos hynny. Fel rhywun o deulu ffermio fy hun ac fel rhywun sydd wedi priodi i deulu ffermio llaeth, hoffwn feddwl fy mod yn ymwybodol iawn o'r effaith y bydd y cynigion hyn yn ei chael nid yn unig ar hyfywedd ariannol llawer o ffermydd ond hefyd ar iechyd meddwl ffermwyr, sy'n wynebu'r rheoliadau hyn yn ystod pandemig byd-eang. Yn wir, mae'r union ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dal ati i hongian y mater hwn uwchben y sector ffermio ers sawl blwyddyn bellach wedi achosi llawer o bryder, ansicrwydd, a rhwystredigaeth yn wir, ac mae'n siomedig iawn fod Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau hyn, yn enwedig pan wnaethant addo peidio â gwneud hynny yn ystod pandemig. Ni fydd y baich gormodol y bydd y rheoliadau hyn yn ei osod ar ffermwyr yn gwneud dim i ddenu pobl i ffermio, ac felly credaf y bydd yn niweidio'r diwydiant yn ddifrifol yn y tymor hir. Yn wir, mae'r negeseuon e-bost niferus rwyf wedi'u cael yn dweud wrthyf y bydd llawer o ffermwyr, yn anffodus, yn cael eu gorfodi i roi'r gorau iddi oherwydd y rheoliadau hyn.
Nawr, dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod angen y rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd dŵr, ond mae'r porth sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, a anfonwyd ataf gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau, yn dangos mai dim ond hyd at 15 y cant o'r achosion o lygredd a achoswyd gan ddigwyddiadau amaethyddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fel y dywedodd Angela Burns, mae'r rheoliadau hyn yn ordd i dorri cneuen. Nawr, mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru hefyd yn methu ystyried peth o'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan ffermwyr ledled Cymru. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, mae prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch afon Cymru yn enghraifft o gynllun gwirfoddol llwyddiannus iawn a gafodd dderbyniad da gan ffermwyr. Roedd cynllun gwrthbwyso a gâi ei weithredu'n llwyddiannus gan grŵp o ffermwyr First Milk yn nalgylch Cleddau, dan arweiniad y ffermwyr lleol, Will Pritchard a Mike Smith, hefyd yn darparu dewis ymarferol arall i sicrhau gostyngiadau mesuradwy mewn nitradau. Felly, roedd yn siomedig iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio adeiladu ar y gweithgaredd hwn a datblygu ateb sy'n gweithio gyda'n sector ffermio ac nid yn ei erbyn.
Nawr, fel y byddech yn disgwyl, mae ffermwyr lleol yn sir Benfro wedi codi sawl mater gyda'r rheoliadau, er enghraifft, nid yw'r cyfnodau gwaharddedig, fel y clywsom eisoes, ar gyfer gwasgaru yn ystyried amodau tywydd y mae'n rhaid i ffermwyr weithio gyda hwy, ac mae'r cyfnod hir o dywydd gwlyb yn effeithio ar y gallu i wasgaru a storio slyri. Fel y dywedwyd eisoes, mae pryderon hefyd ynghylch y rheoliad sy'n pennu na all ffermydd yng Nghymru wasgaru mwy na mesur penodol o nitrogen yr hectar, tra bo'r terfynau'n llawer mwy hyblyg mewn rhannau eraill o'r DU. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae un busnes wedi dweud yn glir y bydd yn rhaid iddynt naill ai ddod o hyd i 125 erw arall o dir i gynnal eu nifer bresennol o stoc neu leihau eu lefelau stoc, a fydd yn effeithio'n sylweddol ar eu hallbwn ac felly ar eu busnes. Dengys hyn yr effaith wirioneddol y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar ffermwyr, a sut y caiff rhai ohonynt eu gorfodi yn awr i wneud penderfyniadau enfawr a fydd yn effeithio ar eu bywoliaeth.
Ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu rhywfaint o gymorth ariannol i ffermwyr er mwyn eu helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau, ond nid yw'r £13 miliwn a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector ffermio'n ddigonol, ac nid oes sôn yn natganiadau Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth y dylai Llywodraeth Cymru ei darparu i fusnesau sydd wedi gorfod lleihau eu lefelau stoc oherwydd y rheoliadau hyn. Felly, efallai y gwnaiff y Gweinidog fanteisio ar y cyfle heddiw i nodi'n union pa gymorth a gynigir i ffermwyr sydd wedi gorfod lleihau stoc neu gael tir ychwanegol i gydymffurfio â'r rheoliadau hyn.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf y bydd y rheoliadau hyn yn niweidio dyfodol y sector yn y tymor hir, ac ni wnânt fawr ddim i ddenu'r genhedlaeth iau i ffermio, ac felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl ganlyniadau ehangach hyn a dod o hyd i ddull o fynd i'r afael â llygredd dŵr sydd nid yn unig yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gymesur ond sy'n gweithio gyda'r diwydiant yn y pen draw, dull nad yw'n dadsefydlogi ei ddyfodol. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig.