Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 24 Chwefror 2021.
Byddaf fi a fy ngrŵp yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr. Mae'r rheoliadau sy'n gweithredu set gyffredinol o reoliadau slyri ar gyfer diwydiant ffermio Cymru gyfan yn gwbl anghymesur, o ran cost a chyflawniad. Mae'n ymddangos unwaith eto fod y mwyafrif yn cael eu cosbi am weithredoedd y lleiafrif. Mae'n bosibl hefyd, hyd yn oed gyda'r lleiafrif, nad oedd modd osgoi'r rhan fwyaf o ddamweiniau llygredd neu eu bod, fel mewn bywyd yn gyffredinol, yn ddim ond mater o gamgymeriadau syml. Mae hyd yn oed y rhain, fel y dywedwyd o'r blaen, wedi gostwng dros 24 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi neilltuo £22 miliwn i helpu ffermwyr i weithredu'r newidiadau sydd eu hangen, ond bydd hyd yn oed cipolwg sydyn ar gost y seilwaith sydd ei angen yn dangos bod y swm yn gwbl annigonol. Amcangyfrifir mai tua £80,000 yw cost gyfartalog adeiladu cyfleusterau storio slyri. O ystyried bod 24,000 o ffermydd yng Nghymru y gallai'r rheoliadau hyn effeithio arnynt, cawn flas ar ba mor annigonol yw'r ffigur a neilltuwyd.
Mae'n amlwg mai'r ffermwyr eu hunain fydd yn ysgwyddo baich y gost o weithredu. Nid yw'r ffigur o £80,000 ond yn cynrychioli'r gost gychwynnol ar gyfer y seilwaith angenrheidiol. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun o'r costau'n rhoi ffigur o £360 miliwn ar gyfer costau cyfalaf ymlaen llaw a chostau blynyddol parhaus o tua £22 miliwn, ac nid yw hyn yn cynnwys y taliad untro amcangyfrifedig o £7.5 miliwn o ffioedd caniatâd cynllunio. O ystyried bod y diwydiant ffermio ynghanol newid enfawr mewn perthynas â Brexit, heb sôn am yr aflonyddwch a achosir gan COVID, sut y mae'r Llywodraeth yn disgwyl i ffermwyr ymdopi â'r gost ychwanegol enfawr hon? Dywedir bod y banciau'n amharod i roi benthyciadau am y gost am nad ydynt yn effeithio'n gadarnhaol ar incwm ffermydd.
Mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain felly: beth yw'r manteision a gyflawnir dros yr 20 mlynedd nesaf? Wel, mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud y bydd oddeutu £300 miliwn, wedi'i osod yn erbyn cost o dros £800 miliwn ar gyfer ei weithredu. Unwaith eto, o'r 953 o'r dalgylchoedd dŵr a nodwyd ledled Cymru, dim ond 113, 12 y cant, oedd yn methu o ganlyniad i arferion ffermio. Ffordd lawer mwy cymesur a chosteffeithiol, does bosibl, o reoli'r problemau llygredd fyddai targedu'r ardaloedd sy'n methu.
Os bydd y mesurau llym hyn yn mynd rhagddynt, credaf y gwelwn lawer o'n ffermwyr sydd eisoes yn dlawd yn mynd i'r wal. Mae un ffermwr wedi dweud wrthyf y bydd yn rhaid haneru ei fuches odro os aiff y mesurau hyn yn eu blaen. Dywed y Gweinidog y bu ymgynghori helaeth â'r diwydiant ffermio, ond dywed y diwydiant ffermio wrthym fod bron bob un o'u hawgrymiadau a'u mewnbwn wedi'u hanwybyddu. O gofio mai ffermwyr Prydain yw rhai o'r ffermwyr mwyaf gweithgar ac arloesol yn Ewrop a'u safonau hwsmonaeth ymhlith yr uchaf yn y byd, dylem wneud popeth i helpu'r diwydiant, nid creu rhwystrau i'w goroesiad. Mae'n ymddangos bod y ffermwyr yn cael eu haberthu ar allor nodau amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.