Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 2 Mawrth 2021.
Ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, pan gefnogodd y Senedd hon y cynnig i ddatgan argyfwng hinsawdd, ni oedd y Senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny. Ac roedd gwneud hynny yn ddatganiad clir nid yn unig bod argyfwng, ond, wrth gwrs, bod angen i ni ymateb i'r argyfwng hwnnw mewn ffordd sy'n adlewyrchu difrifoldeb yr argyfwng yr ydym ni yn ei wynebu. Nawr, nid yw'r camau hyn i ni fel gwleidyddion eu cymryd yn unig, ond, wrth gwrs, mae gan y gymdeithas gyfan ran i ymateb i hynny. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i greu llawer o'r fframwaith deddfwriaethol sy'n hwyluso'r camau y mae eu hangen. Mae'r Bil hwn, a'r gwelliannau sydd ger eich bron heddiw yn y grŵp hwn, gen i, wedi eu rhifo o 51 i 58, yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod ein system addysg yng Nghymru yn chwarae ei rhan yn hynny o beth.
Bwriad fy ngwelliannau, felly, yw ychwanegu 'argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol' at y rhestr o elfennau gorfodol yn y meysydd dysgu a phrofiad, ochr yn ochr ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb, crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac, wrth gwrs, Cymraeg a Saesneg. Maen nhw hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cod sy'n nodi'r themâu a'r materion sydd i'w cynnwys yn yr elfen orfodol o'r addysg am yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, ac rwyf i hefyd yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi neu ddiwygio'r cod.
Maes arall y mae fy ngwelliannau yn cyffwrdd arno yw'r adran yn y Bil ar iechyd meddwl. Mae dyletswydd i ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant 57 o'm heiddo, sy'n cyfeirio'n benodol at yr angen i ystyried pryder ynghylch yr hinsawdd yn rhan o hynny. Bydd gwneud hynny yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n gofyn amdano, ac yn sicrhau, wrth gwrs, hefyd, y rhoddir addysg i athrawon i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i athrawon gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr adran hon. Mae pryder ynghylch yr hinsawdd, fel y bydd yr Aelodau yn ei ddeall rwy'n siŵr, yn cael ei gydnabod yn fater cynyddol amlwg, ac mae hwn yn gyfle i ni adlewyrchu hynny yn y ddeddfwriaeth hon.
Rwyf i wedi bod yn gweithio ar y gwelliannau hyn gyda grŵp o'r enw Teach the Future. Rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch chi wedi cwrdd â'u cynrychiolwyr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Maen nhw'n ymgyrchu i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu haddysgu am yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol—sut y maen nhw'n cael eu hachosi, beth y gallwn ni ei wneud i'w lliniaru a pha fath o fywydau a swyddi fydd gennym ni yn y dyfodol oherwydd y rhain. Maen nhw'n dymuno gweld cynaliadwyedd a'r argyfyngau hyn yn dod yn gynnwys allweddol ym mhob maes pwnc. Maen nhw'n dymuno gweld addysgwyr yn cael eu hyfforddi ar sut i addysgu'r pynciau anodd hyn mewn ffordd, wrth gwrs, sy'n grymuso myfyrwyr, ac maen nhw'n ymgyrchu i gael y cyllid a'r adnoddau angenrheidiol i wneud hyn.
Er bod pobl yn ymwybodol, efallai, fod argyfwng hinsawdd, efallai nad ydyn nhw o reidrwydd yn ymwybodol o'r hyn y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a'u bywydau mewn gwirionedd. Bydd addysgu myfyrwyr, a rhoi'r ddealltwriaeth honno iddyn nhw, yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn arwain at y newid ymddygiad ehangach hwnnw y mae angen i ni ei weld os ydym ni am fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llwyddiannus. Mae arolygon wedi dangos nad yw llawer o bobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol neu ddybryd yw'r bygythiad, ac wrth i drychinebau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gynyddu bob blwyddyn—a dyn a ŵyr, rydym ni wedi gweld llifogydd mawr yng Nghymru yn ddiweddar, onid ydym ni—nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach addysgu pobl ifanc yn iawn am y byd yr ydym ni ac y maen nhw, ac y byddan nhw, yn byw ynddo.
Nid Teach the Future yn unig, wrth gwrs, sydd wedi galw ar i addysg ar yr argyfwng bioamrywiaeth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i fod yn orfodol. Mae llu o sefydliadau amgylcheddol, yn fwyaf diweddar yn rhan o Gyswllt Amgylchedd Cymru, hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros hyn. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ein hatgoffa, er mwyn magu cenhedlaeth yn y dyfodol sydd â'r adnoddau i ymdrin â'r heriau yn y degawdau i ddod, fod angen i ni sicrhau bod ecolythrennedd yn rhan greiddiol o gwricwlwm newydd Cymru a'r meysydd dysgu. Mae gennym ni gyfle i gyflawni hyn heddiw, a byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau. Diolch.