– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 2 Mawrth 2021.
Rydym yn cychwyn gyda grŵp 1 o welliannau, sydd yn ymwneud â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol. Gwelliant 51 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant yma a'r gwelliannau eraill sydd yn y grŵp.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i siarad i'r gwelliannau yma yn y grŵp cyntaf.
Ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, pan gefnogodd y Senedd hon y cynnig i ddatgan argyfwng hinsawdd, ni oedd y Senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny. Ac roedd gwneud hynny yn ddatganiad clir nid yn unig bod argyfwng, ond, wrth gwrs, bod angen i ni ymateb i'r argyfwng hwnnw mewn ffordd sy'n adlewyrchu difrifoldeb yr argyfwng yr ydym ni yn ei wynebu. Nawr, nid yw'r camau hyn i ni fel gwleidyddion eu cymryd yn unig, ond, wrth gwrs, mae gan y gymdeithas gyfan ran i ymateb i hynny. Ond mae'n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i greu llawer o'r fframwaith deddfwriaethol sy'n hwyluso'r camau y mae eu hangen. Mae'r Bil hwn, a'r gwelliannau sydd ger eich bron heddiw yn y grŵp hwn, gen i, wedi eu rhifo o 51 i 58, yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod ein system addysg yng Nghymru yn chwarae ei rhan yn hynny o beth.
Bwriad fy ngwelliannau, felly, yw ychwanegu 'argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol' at y rhestr o elfennau gorfodol yn y meysydd dysgu a phrofiad, ochr yn ochr ag addysg perthnasoedd a rhywioldeb, crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac, wrth gwrs, Cymraeg a Saesneg. Maen nhw hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion gyhoeddi cod sy'n nodi'r themâu a'r materion sydd i'w cynnwys yn yr elfen orfodol o'r addysg am yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, ac rwyf i hefyd yn amlinellu'r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi neu ddiwygio'r cod.
Maes arall y mae fy ngwelliannau yn cyffwrdd arno yw'r adran yn y Bil ar iechyd meddwl. Mae dyletswydd i ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi gwelliant 57 o'm heiddo, sy'n cyfeirio'n benodol at yr angen i ystyried pryder ynghylch yr hinsawdd yn rhan o hynny. Bydd gwneud hynny yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n gofyn amdano, ac yn sicrhau, wrth gwrs, hefyd, y rhoddir addysg i athrawon i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i athrawon gyflawni eu rhwymedigaethau o dan yr adran hon. Mae pryder ynghylch yr hinsawdd, fel y bydd yr Aelodau yn ei ddeall rwy'n siŵr, yn cael ei gydnabod yn fater cynyddol amlwg, ac mae hwn yn gyfle i ni adlewyrchu hynny yn y ddeddfwriaeth hon.
Rwyf i wedi bod yn gweithio ar y gwelliannau hyn gyda grŵp o'r enw Teach the Future. Rwy'n siŵr y bydd rhai ohonoch chi wedi cwrdd â'u cynrychiolwyr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Maen nhw'n ymgyrchu i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu haddysgu am yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol—sut y maen nhw'n cael eu hachosi, beth y gallwn ni ei wneud i'w lliniaru a pha fath o fywydau a swyddi fydd gennym ni yn y dyfodol oherwydd y rhain. Maen nhw'n dymuno gweld cynaliadwyedd a'r argyfyngau hyn yn dod yn gynnwys allweddol ym mhob maes pwnc. Maen nhw'n dymuno gweld addysgwyr yn cael eu hyfforddi ar sut i addysgu'r pynciau anodd hyn mewn ffordd, wrth gwrs, sy'n grymuso myfyrwyr, ac maen nhw'n ymgyrchu i gael y cyllid a'r adnoddau angenrheidiol i wneud hyn.
Er bod pobl yn ymwybodol, efallai, fod argyfwng hinsawdd, efallai nad ydyn nhw o reidrwydd yn ymwybodol o'r hyn y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a'u bywydau mewn gwirionedd. Bydd addysgu myfyrwyr, a rhoi'r ddealltwriaeth honno iddyn nhw, yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn arwain at y newid ymddygiad ehangach hwnnw y mae angen i ni ei weld os ydym ni am fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llwyddiannus. Mae arolygon wedi dangos nad yw llawer o bobl yn sylweddoli pa mor ddifrifol neu ddybryd yw'r bygythiad, ac wrth i drychinebau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd gynyddu bob blwyddyn—a dyn a ŵyr, rydym ni wedi gweld llifogydd mawr yng Nghymru yn ddiweddar, onid ydym ni—nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach addysgu pobl ifanc yn iawn am y byd yr ydym ni ac y maen nhw, ac y byddan nhw, yn byw ynddo.
Nid Teach the Future yn unig, wrth gwrs, sydd wedi galw ar i addysg ar yr argyfwng bioamrywiaeth a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i fod yn orfodol. Mae llu o sefydliadau amgylcheddol, yn fwyaf diweddar yn rhan o Gyswllt Amgylchedd Cymru, hefyd wedi bod yn ymgyrchu dros hyn. Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn ein hatgoffa, er mwyn magu cenhedlaeth yn y dyfodol sydd â'r adnoddau i ymdrin â'r heriau yn y degawdau i ddod, fod angen i ni sicrhau bod ecolythrennedd yn rhan greiddiol o gwricwlwm newydd Cymru a'r meysydd dysgu. Mae gennym ni gyfle i gyflawni hyn heddiw, a byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau. Diolch.
Byddaf i'n cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Efallai mai'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol yw'r her fwyaf yr ydym ni yn ei hwynebu, ond y cenedlaethau iau a chenedlaethau'r dyfodol fydd yn gorfod ymdrin ag effaith a chostau ein diffyg gweithredu ni hyd yma. Ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, nid mater amgylcheddol yn unig yw'r effaith yr ydym ni wedi ei chael ar ein hinsawdd ac ar ein hecosystemau. Bydd yn rhaid iddyn nhw fod â'r gallu i ymdrin â'r diffyg economaidd, diwylliannol a gwleidyddol, a dyna pam yr wyf i'n cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau yng ngrŵp 1. Dylai'r ffaith bod pobl ifanc eu hunain wedi helpu i ddrafftio'r gwelliannau hyn helpu i argyhoeddi'r rhai hynny nad ydyn nhw wedi penderfynu p'un a'u cefnogi ai peidio. Fy unig bryder i yw gwelliant 57. Er fy mod i'n cefnogi syniad y gwelliant hwn, rwy'n credu bod adran 62 eisoes yn ymdrin â'r bwriad heb fod angen cyfeirio at bryder ynghylch yr hinsawdd, y gellid ei ddefnyddio i gyfyngu ar gwmpas y cymorth. Cydnabyddir eisoes fod eco-bryder, a fyddai'n cynnwys pryder ynghylch yr hinsawdd, yn effeithio ar iechyd meddwl a lles. Felly, byddaf yn ymatal ar y gwelliant hwn, ond byddaf yn cefnogi'r holl welliannau eraill yn y grŵp hwn. Diolch yn fawr.
Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Ymddiheuriadau, Llywydd, am beidio â gwisgo fy nghlustffon.
Dyna welliant.
Rwyf i hefyd wedi cyfarfod â rhai o gynrychiolwyr Teach the Future, ac fel y rhan fwyaf o bobl ifanc, maen nhw'n pryderu'n fawr, fel y dylen nhw, am yr amgylchedd. Ond rwy'n credu bod gwelliant Llyr yn gyfeiliornus, oherwydd rwy'n credu ei fod yn camddeall yr hyn y mae Bil y cwricwlwm yn ei wneud mewn gwirionedd, sef darparu fframwaith ar gyfer yr hyn y mae angen i athrawon ei ddysgu, yn hytrach na dweud wrthyn nhw beth yn union y mae'n rhaid iddyn nhw ei ddysgu. Felly, roeddwn yn annog y bobl ifanc hynny i siarad â'r consortia, sy'n cynghori athrawon ynglŷn â sut maen nhw'n mynd i gyflawni'r rhwymedigaethau i greu cyfranwyr mentrus, creadigol y dyfodol, i sicrhau eu bod yn ddysgwyr uchelgeisiol sydd â dealltwriaeth foesegol a gwybodus o'n lle ni yn y byd. Credaf mewn gwirionedd fod y gwelliant yn glastwreiddio'r fframwaith uchelgeisiol hwnnw yr ydym ni wedi'i greu gyda'r Bil hwn, gan sicrhau bod athrawon yn gallu defnyddio eu haddysgeg i sicrhau bod y ffordd y maen nhw'n mynd i addysgu yn gweddu i anghenion eu disgyblion unigol. Rwy'n rhannu brwdfrydedd y bobl ifanc a'u hymrwymiad i sicrhau nad ydym ni yn cyfrannu at y problemau yr ydym ni yn eu hwynebu nawr, a'n bod yn mynd i'r afael â hwy'n effeithiol, ond credaf fod angen i lywodraethwyr ysgolion drafod y problemau hyn er mwyn sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw'r argyfwng hinsawdd.
Rwy'n synnu'n fawr at y gwelliannau hyn. Roedd brwdfrydedd Llyr Gruffydd wrth siarad o'u plaid yn ein hatgoffa o weinidogaethau propaganda a goleuo'r cyhoedd mewn oes a fu. Dylai addysg ymwneud ag addysgu plant i gwestiynu, meddwl a defnyddio eu barn, ac eto yr hyn y cawn ein gwahodd i'w wneud yma yw gosod ar blant rhyw fath o wirionedd a dderbynnir, ond mewn gwirionedd mae dadl boeth ymysg academyddion ac eraill sy'n gyfarwydd iawn â theori newid hinsawdd. Mae'n dipyn o syndod gweld cynrychiolydd o Blaid Cymru yn siarad fel hyn heddiw oherwydd mae genedigaeth ymwahaniaeth wleidyddol fodern, rwy'n credu, i'w chael yn y dadleuon mawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ynglŷn â gosod dogmâu diwinyddol yr eglwys wladol ar blant teuluoedd anghydffurfiol i raddau helaeth. Yr hyn yr ydym yn cael ein gwahodd i'w wneud heddiw yw'r union beth y byddai wedi'i wrthwynebu mewn cyd-destun arall 150 mlynedd yn ôl.
Rwy'n amau'r damcaniaethau y mae Llyr eisiau eu gorfodi ar blant heddiw, a chredaf mai'r hyn y dylem ni ei ddysgu yw dwy ochr y ddadl hon. Dyna ddylai gwir addysg fod. Nid ydym yn ymdrin â rhywbeth yma sy'n wirionedd dogmatig; rydym yn ymdrin â phwnc lle mae ansicrwydd a damcaniaethau sylweddol iawn. Mae'r rhan fwyaf o'r damcaniaethau wedi'u seilio, wrth gwrs, ar fodelau cyfrifiadurol, ac mae modelau cyfrifiadurol yn gweithio ar yr egwyddor o sbwriel i mewn a sbwriel allan. Yr hyn y dylem fod yn ei geisio yw cyflwyno nid yn unig damcaniaethau un ochr i'r ddadl hon, ond, mewn gwirionedd, damcaniaethau'r ddwy ochr, ac yna gwahodd y rhai sydd yn yr ystafell ddosbarth i feddwl ynghylch beth yw'r materion dan sylw.
Oes, mae'n siŵr, mae yna ymhlith lleiafrif bach iawn o bobl bryder ynghylch yr hinsawdd, ond yna mae pryderon am bob math o bethau. Fil o flynyddoedd yn ôl, roedd pobl yn poeni am ddiwedd y byd yn dod yn y flwyddyn 1000. Mae milflwyddiaeth apocalyptaidd wedi bod gyda ni cyhyd ag y bu bodau dynol ar y blaned. Yn fwyaf diweddar, wrth gwrs, roedd byg y mileniwm yn nodwedd arall o hyn, digwyddiad apocalyptaidd na ddigwyddodd erioed. Rwy'n credu bod hon yn ffordd beryglus iawn o geisio defnyddio Bil Llywodraeth i osod barn wleidyddol benodol ym meddyliau plant sy'n hawdd eu perswadio. Rwy'n credu ei fod yn groes i addysg, mewn gwirionedd. Mae hynny'n rhywbeth na ddylem ni ei gefnogi yn y ddadl hon heddiw.
Nid yw newid hinsawdd yn debyg i ddeddfau ffiseg. Nid oes digon o ddata, yn un peth, i fod yn sicr ohono dros gyfnod digon hir, mae gormod o newidion, gormod o ansicrwydd, ac mae gennym ni wahaniaeth llwyr rhwng canlyniadau modelau cyfrifiadurol a'r hyn a wyddom ni o faes arsylwi. Dim ond ers rhyw 25 mlynedd y mae data lloeren gennym ni sy'n gallu rhoi data dibynadwy i ni, ac nid yw hynny'n ddigon hir i ddod i'r math o gasgliadau y mae Llyr yn ôl pob golwg yn credu eu bod yn ffeithiau sefydledig. Yr hyn a wyddom am newid hinsawdd yw bod newid wedi digwydd erioed. Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Rhufeinig, hyd y gallwn ni ddweud, roedd yr hinsawdd yn Ewrop beth bynnag yn gynhesach na heddiw. Yna, aethom trwy gyfnod oer yn yr oesoedd tywyll. Yn y cyfnod cynnes canoloesol, unwaith eto, aethom yn ôl i'r cyfnod Rhufeinig, ac yna yn yr ail ganrif ar bymtheg, fel y'i cofnodwyd yn helaeth drwy ddyddiaduron Samuel Pepys, aethom i oes iâ fach yr ydym ni wedi bod yn dod ohoni'n araf byth ers hynny.
Felly, nid oes neb yn gwadu, mewn gwirionedd, fod cynhesu byd-eang yn digwydd, ond mae'r hyn sy'n ei achosi yn rhywbeth sy'n destun dadl boeth, a'r ddadl honno, rwy'n credu, y dylem fod yn ei dysgu yn ein hysgolion heddiw, nid addysgu pobl yr hyn sy'n bropaganda yn fy marn i ac yn honni ei fod yn ffaith ddiamheuol. Does dim rhaid ichi ond edrych ar y llenyddiaeth sydd gennych chi, dim ond edrych ar yr enwau enwog sy'n gysylltiedig â'r safbwyntiau gwleidyddol yr wyf yn eu cyflwyno heddiw i weld bod dadl ddifrifol yna, a dyna yw gwir addysg. Felly, credaf fod hon yn gyfres o welliannau gwrth-addysg y dylid eu gwrthod heddiw. Cytunaf yn llwyr â'r hyn y mae Jenny Rathbone newydd ei ddweud, er bod ein barn am y pwnc hwn yn gwbl groes. Cytunwn yn aml iawn ar hanfodion yr hyn y dylem fod yn ei wneud ym maes addysg. Gwahoddaf y Senedd heddiw i'm dilyn i am newid, a phleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn.
Y Gweinidog, Kirsty Williams.
O diar, Llywydd. Rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i roi araith ar y cysyniad o gyfwerthedd ffug ac i ddadlau â Mr Hamilton am ei ebychiad y prynhawn yma. Yr hyn y gallaf ei sicrhau i Aelodau'r Senedd yw y bydd cysyniadau fel cyfwerthedd ffug, newyddion ffug a phropaganda yn wir yn rhan o Gwricwlwm newydd Cymru, a byddwn yn wir yn arfogi ein plant a'n pobl ifanc i drafod, os nad oes ots gennych imi ddweud, rhywfaint o'r nonsens yr ydym ni newydd glywed gan Mr Hamilton.
A gaf i groesawu Llyr Gruffydd yn ôl i drafod materion addysg gyda mi? Mae croeso mawr iddo yn wir. Gwn fod Llyr yn deall yn iawn y rhesymeg a'r cysyniadau a'r meddylfryd, y meddylfryd addysgeg, sy'n sail i'n hymagwedd tuag at ddiwygio'r cwricwlwm yma yng Nghymru, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am ei gefnogaeth, pan oedd yn llefarydd addysg Plaid Cymru, am y cyfeiriad yr oeddem yn mynd iddo i ddiwygio'r cwricwlwm. Mae'n deall yn iawn mai un o bedwar diben ein cwricwlwm newydd yw sicrhau bod gennym ni ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd o ganlyniad i'r amser y treuliodd plant yn y system addysg yng Nghymru. A gwn ei fod yn cefnogi hynny. Ac er fy mod yn falch iawn ei fod wedi codi'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol fel maes i'w gynnwys yn fframwaith newydd y cwricwlwm, ni chredaf fod angen y gwelliannau y mae wedi'u cyflwyno i gynnwys hynny ar wyneb y Bil.
Ac i fod yn gwbl glir, ac er mwyn osgoi amheuaeth, rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysgu ein plant a'n pobl ifanc am newid hinsawdd, ei achosion, ei effaith, yma gartref yn ogystal ag yn fyd-eang, a'r camau y mae angen eu cymryd i ddiogelu ein holl ddyfodol. Ac wrth gwrs, yng Nghymru, mae gennym ni sail gref i adeiladu arni. Rydym ni wedi bod yn cefnogi dwy raglen allweddol ar gyfer addysg hinsawdd ac amgylcheddol ar gyfer ysgolion ledled ein gwlad ers sawl blwyddyn bellach, a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â'r rhaglen Eco-Sgolion a menter Maint Cymru. Ac rydym ni eisoes yn cynnal trafodaethau gyda'r rhai sy'n cyflwyno'r rhaglenni hynny i sicrhau y gallant barhau i'n cefnogi ar ein taith i ddiwygio'r cwricwlwm a sicrhau'r pwynt pwysig iawn a gododd Llyr, y gallwn ni arfogi ein hathrawon gyda'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod y gwersi hyn yn cael eu cyflwyno'n dda iawn. Mae'r rhaglenni addysgol hyn wedi'u hen sefydlu, ac mae pob un o'n hysgolion yn gallu eu defnyddio am ddim, a thrwy'r rhaglenni hynny bob blwyddyn gallwn fynd ymhellach na'r ystafell ddosbarth ac ymgysylltu'n weithredol â phlant a phobl ifanc gyda datblygu polisi, y cysyniad o weithredu, yn ogystal â'r cyfle i wrando ar eu barn a chreu cyfleoedd i'r safbwyntiau hynny gyrraedd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol.
O ran gwelliannau 51 a 54 i 56, fel y gŵyr Llyr yn dda, mae'r Bil yn cyfyngu ar nifer yr elfennau gorfodol a restrir ar wyneb y Bil, ac mae sail resymegol dros hynny. Ac er fy mod yn cydnabod pwysigrwydd y mater, nid wyf yn derbyn y dylai'r rhain eistedd ochr yn ochr â'r pedair elfen orfodol a restrir. Mae dysgu am heriau hinsawdd ac amgylcheddol eisoes yn orfodol yn ein cwricwlwm newydd drwy ddatganiadau 'yr hyn sy'n bwysig'. Mae'r datganiadau hyn yn cadarnhau'r ystod o faterion y mae'n rhaid i ysgolion eu cynnwys yn eu cwricwlwm, ond hefyd yn darparu hyblygrwydd a chysylltiadau ar draws y cwricwlwm i feithrin dealltwriaeth o'r cysyniadau allweddol hyn. Mae'r dull hwn yn annog dulliau integredig ar draws y cwricwlwm ac yn caniatáu i faterion fel newid hinsawdd gael eu trafod mewn gwahanol bynciau.
Ac mae hynny eisoes yn digwydd yn ein hysgolion, yn ein hysgolion arloesi, sef y rhai sydd eisoes wedi mabwysiadu'r cwricwlwm a dechrau ei ddysgu. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith eithriadol sy'n digwydd. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas ym Mro Morgannwg, a ddefnyddiodd y cysyniad o olew palmwydd a dinistrio cynefinoedd naturiol i dyfu palmwydd, a'r effaith ar yr orangwtang, a defnyddiodd yr ysgol y pwnc hwnnw nid yn unig i archwilio materion yn ymwneud â'r effaith uniongyrchol ar orangwtangiaid, ond roedden nhw'n ei ddefnyddio i ddatblygu eu hysgrifennu creadigol, yn ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau siarad a thrafod eu plant, yn ei ddefnyddio fel cysyniad ar gyfer prosiectau celf yn ogystal â phrosiectau cerddoriaeth. Felly, roeddent wedi defnyddio'r cysyniad o'r pwnc hwnnw, a oedd yn peri pryder mawr, dwfn i'r plant, i ddatblygu sgiliau ar draws y cwricwlwm. A dyna, yn Sain Nicolas, ymgorfforiad llwyr o'n hymagwedd tuag at y cwricwlwm.
Bydd aelodau wedi fy nghlywed yn siarad yn aml am Ysgol Uwchradd Crucywel yn fy etholaeth i, lle rhoddwyd dewis i flwyddyn 7 o ba bwnc i'w archwilio. Fe wnaethon nhw ddewis llygredd plastig, a gwelwyd pob un wers, ar draws y cwricwlwm, drwy brism y pwnc hwnnw. Roedd hynny'n cynnwys Cymraeg, Saesneg, lle'r oeddent yn gallu gweithio gyda'n siop ddi-blastig leol i wneud arwyddion dwyieithog a rhywfaint o hysbysebu dwyieithog ar gyfer y siop honno, oherwydd nid oedd gan y siop y rheini o'r blaen. Felly, roeddent yn datblygu eu sgiliau Cymraeg, i gyd drwy brism y cysyniad o lygredd plastig a newid hinsawdd a gweithredu amgylcheddol. Felly, mae ein hysgolion yn manteisio ar y cyfle i ymateb yn y ffordd honno.
Felly, yn yr un modd â gwelliant 52, mae'r cysyniadau allweddol sy'n ffurfio'r datganiadau o 'yr hyn sy'n bwysig' wedi'u datblygu mewn proses o gyd-adeiladu gyda'n hymarferwyr yn unol â set glir o feini prawf, ac mae Gweinidogion Cymru wedi gweithio gyda nhw i bennu'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y codau 'yr hyn sy'n bwysig'. Felly, er mwyn osgoi amheuaeth, os nad yw Aelodau'n gyfarwydd â'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', mae gennym ni bedwar cyfeiriad penodol yn y datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a chodi ymwybyddiaeth ar draws ein meysydd dysgu a phrofiad sy'n cynnwys y dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg. Ac maen nhw'n cynnwys y datganiad:
'Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi'i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol', ac
'Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol', ac,
'Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau', ac yn olaf,
'Mae'r byd o'n cwmpas yn llawn pethau byw sy'n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.'
Ac fel y dywedais, mae'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' eisoes yn rhan orfodol o'r cwricwlwm a chredaf y dylent roi'r sicrwydd i Llyr y darperir eisoes ar gyfer ei ddyhead y mae wedi siarad amdano y prynhawn yma a'i fod wedi'i sicrhau yn ein datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig'.
Felly, gan symud ymlaen at welliannau 53 a 58, fel y dywedais, nid wyf yn credu ei bod hi'n angenrheidiol cynnwys cod ychwanegol, oherwydd drwy ein datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', rydym ni eisoes yn gweithredu yn hyn o beth.
A gaf i droi at fater gwelliant 57? Unwaith eto, rwy'n cydnabod difrifoldeb yr argyfwng sy'n wynebu ein hinsawdd, ac yn un sydd, rwy'n siŵr, ar flaen llawer o feddyliau ein pobl ifanc; gall arwain yn wir at bryder i rai dysgwyr. Ar ôl ymgynghori â'r sector, byddaf yn cymryd camau i sicrhau ein bod yn cryfhau'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' i sicrhau nad oes amwysedd o gwbl o ran yr angen i addysgu'r pynciau hyn. Ond o ran iechyd meddwl a lles emosiynol, mae amrywiaeth enfawr o faterion sy'n effeithio ar iechyd meddwl ac emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Ac yn hytrach na chymryd her benodol y mae ein pobl ifanc yn ei hwynebu, rydym ni wedi gweithio'n galed iawn yn dilyn adroddiad y pwyllgor a chyngor y pwyllgor plant a phobl ifanc wrth gyflwyno'r Bil hwn i sicrhau bod iechyd meddwl a lles ar flaen y gad o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud, ac rydym ni wedi gweithio gyda'r pwyllgor hwnnw i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i sicrhau, wrth gynllunio'r cwricwlwm, y dylai penaethiaid a chyrff llywodraethu ystyried cyfanswm iechyd a lles plant wrth gynllunio'r cwricwlwm hwnnw. Felly, unwaith eto, gobeithiaf fod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i Llyr fod iechyd ac iechyd meddwl a lles plant, wrth gynllunio cwricwlwm, yn egwyddor arweiniol bwysig yn ogystal â bod yn gynnwys o fewn y cwricwlwm ei hun i gefnogi iechyd a lles. Felly, byddwn yn annog aelodau i wrthod y gwelliannau yn y grŵp hwn. Diolch.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Mae'r ffaith bod pobl ifanc wedi bod yn rhan o'r broses yma o weithio ar welliannau ac edrych ar y Bil, dwi'n meddwl, yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r broses yma o safbwynt pweru'r bobl ifanc hynny a'u harfogi nhw â set newydd o sgiliau gobeithio fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny'n effeithiol yn y dyfodol, felly mae'n dda bod Caroline Jones wedi cydnabod hynny.
Rwy'n siomedig bod Jenny Rathbone yn teimlo bod y gwelliannau'n gyfeiliornus. Ydw, rwyf yn deall—. Cyfeiriodd y Gweinidog at fy ymgysylltiad cynnar, efallai, fel cyn-aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n deall yn iawn mai darn o ddeddfwriaeth fframwaith ydyw, ond wrth gwrs, roedd Jenny yn dweud wrthym, 'Nid oes angen i ni ddweud wrthynt am hyn, oherwydd mae wedi ei gynnwys.' Wel, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu, mewn gwirionedd, fod angen inni ddweud wrth bobl am addysg perthynas ac addysg rhywioldeb a chrefydd a gwerthoedd a moeseg. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw, 'Wel, o ystyried pwysigrwydd yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yr ydym yn ei wynebu yn ein bywydau, yna dylem fod yn ychwanegu hynny hefyd.'
O ran sylwadau Neil Hamilton, dywedodd ei fod wedi synnu'n fawr, a byddwn i'n synnu'n fawr pe na bai'n synnu'n fawr at rai o'r pethau a ddywedaf, oherwydd mae'n gwbl amlwg ein bod yn anghytuno'n llwyr ar hyn. Ac iddo awgrymu bod y gwelliannau hyn o hen oes a fu, wel, efallai y byddai rhai'n awgrymu y byddai yntau'n gwybod hynny, mae'n debyg. Felly, rwy'n siomedig, mewn gwirionedd, ond nid wyf yn synnu at ei gyfraniad. 'Byg y Mileniwm'—er mwyn y nefoedd.
Beth bynnag, iawn—dim ond ymateb i'r Gweinidog, felly, rwy'n deall yr honiad bod llawer o'r hyn y mae arnaf eisiau ei gyflawni wedi'i gynnwys yn y Bil. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, yw bod fy ngwelliannau yn ei gwneud hi'n glir ac yn sicrhau nad yw'r argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn cael eu colli ymhlith pethau eraill. Mae'n cael, yn fy marn i, y pwyslais manwl iawn o fewn y cwricwlwm y mae'n ei haeddu. Ac wrth gwrs, nid oes dim yn fy ngwelliannau a fyddai'n atal unrhyw beth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud rhag cael eu cyflawni, felly nid oes rheswm dros wrthwynebu'r gwelliannau, yn fy marn i. Yn wir, rwy'n eu gweld yn cryfhau'n union yr hyn yr ydym ni i gyd eisiau ei weld.
Nawr, wrth gwrs, gwnaeth y Prif Weinidog rai datganiadau mawr am yr argyfwng hinsawdd yn ei araith yn y gynhadledd y penwythnos diwethaf. Wel, rydych chi'n gwybod mai dyma'r prawf cyntaf, onid yw, felly peidiwch â methu cyn cychwyn drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn. Apeliaf ar Aelodau.
Mae'r plant ieuengaf sydd yn ein system addysg ar hyn o bryd yn dair oed, ac mae'n debyg na fydd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr hyn yn gadael addysg amser llawn tan tua 2035 efallai. Erbyn 2035, mae'n ddigon posibl y byddwn eisoes wedi pasio'r targed 1.5 gradd mewn cysylltiad â chynhesu byd-eang, felly mae angen i ni newid ein ffordd o fyw yn gyflym. Gwyddom i gyd fod diddordebau'n cael eu meithrin o oedran ifanc iawn, ac mae'r blynyddoedd cynnar yn yr ysgol yn hanfodol ar gyfer datblygu cymeriad plentyn, a thrwy weithredu addysg yr hinsawdd nawr, yn y cwricwlwm hwn, gallwn sicrhau bod plant sy'n mynd i fyd gwaith ar ôl 2030 yn barod ar gyfer byd gwahanol iawn, ond byd, wrth gwrs, lle, diolch i'r system addysg yng Nghymru, y maen nhw'n ymwybodol o'r hinsawdd, ac maen nhw'n ddinasyddion sy'n ymwybodol o'r hinsawdd. Felly, byddwn yn annog Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau, os gwelwch yn dda, ac, wrth wneud hynny, adlewyrchu'r gwir bwysigrwydd a phwysau a roddwn ar y maes penodol hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 51? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n symud at bleidlais ar welliant 51. Cyn i ni wneud hynny, fe fydd angen i ni gymryd toriad byr i baratoi ar gyfer y bleidlais. Felly, fe wnawn ni gymryd y toriad byr nawr.
Reit, dyma ni'n symud felly i'n pleidlais gyntaf ni y prynhawn yma, ac fe fydd y bleidlais honno ar welliant 51 yn enw Llyr Gruffydd. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 20, tri yn ymatal, 31 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 51 wedi ei wrthod.