Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 2 Mawrth 2021.
Rwy'n falch o siarad mewn dadl heddiw i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon sy'n briodol yn ddatblygiadol, sy'n gynhwysol ac sy'n seiliedig ar gydraddoldeb ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Bydd yr Aelodau hynny sydd wedi darllen ein hadroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi rhoi ein cefnogaeth unfrydol i'r cynlluniau, ar ôl gwrando'n astud ar y dystiolaeth yr oeddem ni wedi'i chlywed. Mae'r ffaith bod pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd wedi dod i farn mor glir a diamwys ar hyn yn dyst i bŵer y dystiolaeth yr oeddem ni wedi'i chael. Bydd y rhai ohonoch a oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl Cyfnod 1, rwy'n siŵr, yn cofio cyfraniad pwerus Laura Jones, gan ddisgrifio sut, fel rhiant, yr oedd wedi bod yn poeni ynghylch y cynlluniau ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond ar ôl gwrando ar y dystiolaeth, mae hi nawr yn cydnabod y manteision y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon yn ei gynnig i blant a phobl ifanc, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymgysylltu adeiladol y pwyllgor cyfan ar hyn.
Hoffwn i gydnabod yr holl sefydliadau ac unigolion hynny a wnaeth achos mor gryf dros addysg cydberthynas a rhywioldeb i'r pwyllgor: NSPCC Cymru Wales, Cymorth i Fenywod Cymru, Stonewall Cymru, Brook Cymru, yr Athro E.J. Renold, a Chomisiynydd Plant Cymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi ysgrifennu'n unigol at ASau yn y dyddiau diwethaf, gan gyflwyno achos dros addysg cydberthynas a Rhywioldeb o safbwynt mwy arbenigol nag y gallwn i honni ei fod wedi'i gael erioed.
Hoffwn i ddiolch hefyd i Kirsty Williams am ei hymrwymiad i wneud yr hyn sy'n iawn i blant a phobl ifanc yn hyn o beth. Nid yw hwn yn fater hawdd, a byddai wedi bod yn rhy hawdd iddi hi roi hyn yn y blwch 'rhy anodd'. Ond nid dyna'r Kirsty Williams yr wyf i'n ei hadnabod, ac rwyf i eisiau ei chanmol hi am ei dewrder a'i chadernid wrth ymdrin â hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc.
Nawr, mae llawer o'r hyn y mae modd ei ddisgrifio'n gamwybodaeth, ar y gorau, yn cylchredeg ynghylch y cynlluniau hyn. Gobeithio y caiff yr Aelodau eu calonogi gan y pwyso a gwrthbwyso sydd ar waith, yn enwedig y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb statudol, y bydd yn rhaid i'r Senedd hon ei gymeradwyo. Rwy'n gobeithio hefyd bod Aelodau'n barod i ymddiried yn ein hathrawon, y gweithwyr proffesiynol y byddwn ni'n gofyn iddyn nhw ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Felly, nid wyf i eisiau canolbwyntio heddiw ar y gamwybodaeth na'r hyn nad yw addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei wneud; rwyf i eisiau canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, beth yw addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon.
Hawl plentyn yw addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rydym ni yn llygad ein lle'n ymfalchïo yn y Senedd hon yn ein hymrwymiad i hawliau plant. Weithiau, rydym ni, gan gynnwys fi fy hun, yn manteisio ar y cyfle i ddweud yn y Senedd yr hoffem ni i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Wel, yr ymrwymiad i addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y Bil hwn yw hawliau plant ar waith. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ymwneud â chadw ein plant yn ddiogel. Fel y dywedodd NSPCC Cymru wrth ein pwyllgor:
Rydym ni'n ymwybodol fod addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol i blant, ond fel ei swyddogaeth fwyaf sylfaenol, mae'n helpu i gadw plant yn ddiogel rhag niwed. Ac mae'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol newydd yng Nghymru wir yn dod â photensial cyffrous i sicrhau bod gan bob plentyn y wybodaeth a'r iaith sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall bod ganddyn nhw'r hawl i ddiogelwch, i adnabod pob math o ymddygiad camdriniol neu reoli ac i'w grymuso i godi eu llais a chael cymorth cyn gynted â phosibl.
Ond mae hyn wrth gwrs yn fwy nag ymwneud â phlant; mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu'r sylfeini i'r plant a'r bobl ifanc hynny dyfu i ffynnu mewn perthynas ddiogel a pharchus.
Yn olaf, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn ymwneud â diogelu iechyd meddwl ein plant. Perthnasoedd cryf a chadarnhaol yw'r sylfaen hanfodol ar gyfer iechyd meddwl da, ac rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad y dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gynhwysol o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ac yn seiliedig ar gydraddoldeb. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na diogelu iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc, ac yn benodol, atal hunanladdiad pobl ifanc. Ac, yn drasig, mae yna bobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad oherwydd bwlio homoffobig neu oherwydd nad oedd eu rhywioldeb wedi'i dderbyn. Pan gafodd y cynlluniau addysg cydberthynas a rhywioldeb eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cysylltodd etholwr â mi i ddweud gymaint yr oedd yn croesawu'r cynlluniau. Dywedodd ef wrthyf i mai prin yr oedd wedi goroesi tyfu i fyny fel bachgen hoyw yn ei arddegau mewn teulu lle nad oedd ei rywioldeb yn cael ei dderbyn, a dywedodd ef wrthyf gymaint o wahaniaeth y byddai cael mynediad i addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol wedi'i wneud iddo. Felly, dywedaf i wrth yr Aelodau heddiw mai'r plant a'r bobl ifanc nad ydyn nhw'n cael negeseuon o gefnogaeth a chynwysoldeb gartref yw'r rhai sydd angen addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn fwy na neb arall. Heb unrhyw amheuaeth, i rai plant a phobl ifanc, mater o fyw neu farw yw hyn.
Rwy'n croesawu gwelliant 40 yn enw Suzy Davies, ac rwy'n diolch iddi hi am ei gyflwyno. Fel y dywedodd hi, mae'n gweithredu argymhelliad yn ein hadroddiad Cyfnod 1 ac yn sicrhau bod y manteision yr wyf i wedi'u disgrifio hefyd ar gael i'n dysgwyr ôl-16. Ond rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau Darren Millar yn y grŵp hwn a chefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, a fydd yn newid bywydau cynifer o bobl ifanc, a hyd yn oed yn achub bywydau rhai. Diolch yn fawr.