– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 2 Mawrth 2021.
Symudwn ni ymlaen i grŵp 3, sef addysg cydberthynas a rhywioldeb. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 2, ac rwy'n galw ar Suzy Davies i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Suzy.
Iawn, diolch, Dirprwy Lywydd, rwy'n ymbwyllo ychydig yma.
Ydw, rwy'n cynnig gwelliant 2, sef y prif welliant yn y grŵp hwn. Nawr, mae ein grŵp bob tro wedi cynnig pleidlais rydd ar faterion cydwybod a byddaf i'n bwrw fy mhleidlais i ar sail cydwybod hefyd. Mae fy un i'n cael ei rheoli gan yr egwyddor bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i gadw ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel, a byddaf i'n gwneud hynny ar sail tystiolaeth, nid dim ond yn y pwyllgor a'r cyfarfodydd niferus gyda phartïon â diddordeb, ond ar sail sefyllfaoedd diogelu gofidus yr wyf i'n credu y bydd llawer ohonom ni wedi dod ar eu traws yn ein gwaith achos. Rwyf i hefyd yn gwneud hynny ar sail fy ngwaith blaenorol fel cyfreithiwr, pryd yr oedd gennyf i rai achosion anodd iawn i ymdrin â nhw. Nid oes dianc rhag y ffaith bod cymaint o gam-drin yn digwydd o fewn teuluoedd. Nawr, yn sicr, lleiafrif yw hwn; nid wyf i'n awgrymu fel arall. Ond, sut y gall hi fod yn ddoeth gwrthod unrhyw beth a all helpu plentyn i ddysgu o ran diogelu ei hun neu eraill? Rwy'n credu yn oes y rhyngrwyd hon na fu erioed yn fwy o her.
Rhan o gadw ein plant yn ddiogel yw eu helpu nhw a'u cyfoedion i dyfu'n llai cyfforddus yn barnu eraill am fod yn wahanol, beth bynnag yw'r gwahaniaeth hwnnw; eu cael i feddwl yn gynyddol am gwestiynau anodd—cwestiynau cynyddol anodd—ynglŷn â pham y maen nhw'n datblygu rhagfarnau, pam mae rhai pobl yn arfer grym dros eraill drwy fwlio emosiynol yn ogystal â chorfforol a sut olwg sydd ar berthynas iach, oherwydd nid yw'r rhan hon o'r cwricwlwm yn ymwneud ag addysg rhyw yn unig.
Nid oes dim byd yn atal rhieni rhag addysgu a dylanwadu ar eu plant gartref ochr yn ochr â'r ysgol, wrth gwrs, a dylem ni hefyd ddisgwyl i gefndir diwylliannol a chrefyddol plentyn gael ei ystyried fel rhan o benderfynu beth sy'n briodol yn ddatblygiadol—gofyniad addysgu addysg cydberthynas a rhywioldeb yn yr ysgol; mae gwelliant 42 yn gwneud hynny'n glir. Ond ni allwn ni ddianc rhag y ffaith bod y Bil hwn yn dileu hawl rhiant, a dylai unrhyw ddeddfwrfa archwilio'n ofalus unrhyw ymgais gan y Bwrdd Gweithredol i ddileu hawl unrhyw un. Dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno gwelliannau 6, 8, 9 a 10. Mae'r rhain yn darparu i rieni disgyblion mewn meithrinfeydd ac ysgolion gael gwybod sut y caiff addysg cydberthynas a rhywioldeb ei haddysgu a phryd y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno.
Mae'r rhain yn fersiynau wedi'u glastwreiddio o welliannau Cyfnod 2 na chawsant eu derbyn. Fodd bynnag, maen nhw'n dal i fod yn arwydd i rieni sydd wedi colli'r hawl hon fod ganddyn nhw statws parhaus yma, hyd yn oed os ychydig iawn o effaith sydd ganddyn nhw, gan y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhagnodol iawn, ar y maes dadleuol hwn o'r cwricwlwm. Os yw rhieni'n teimlo'n fwy gwybodus ac yn fwy o'r un fryd, byddem ni i gyd yn gobeithio y daw'n elfen lai dadleuol o'r cwricwlwm wedi'r cyfan, gyda mwy o gyfle i ddysgu gael ei atgyfnerthu gartref.
Felly, y ddadl yn erbyn y gwelliannau hyn yw y bydd eu bodolaeth yn creu ymdeimlad o wahaniaeth rhwng hwn a rhannau eraill o'r cwricwlwm, a bod ymgynghori lleol eisoes wedi'i gynnwys yn natblygiad y cwricwlwm. Ond mae'r gwelliannau hyn yn ymwneud â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i rieni, nid ymgynghori â nhw. Efallai y bydd hyn yn arafu normaleiddio'r pwnc, ond byddwn i'n dweud bod y gwahaniaeth hwnnw'n cael ei ymgorffori yn y Bil hwn, sy'n nodi addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer statws arbennig fel pwnc gorfodol gyda chod manwl y mae'n rhaid i ysgolion gadw ato.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei chymorth gyda gwelliant 40? Rwy'n credu y byddaf i'n rhoi llawer o ddiolch iddi hi yn ystod y ddadl hon. Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi sylwi bod pobl ifanc ym mlynyddoedd 12 a 13, ar ôl i addysg orfodol ddod i ben, yn gallu dibynnu ar y Bil hwn i ofyn bod darpariaeth addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn parhau, ac nid oedd yn hawdd iawn gweld pam na allai'r un bobl ifanc ofyn am barhad o addysg cydberthynas a rhywioldeb ar adeg pan fydden nhw wir yn elwa arno. Gweinidog, gwnaethoch chi dderbyn y ddadl hon, ac rwy'n ddiolchgar am eich parodrwydd i gytuno i hyn.
Yn olaf, wrth gwrs, gwelliannau 2 a 4. Bydd Aelodau'n ymwybodol o'r ymgyrch hirsefydlog gan Driniaeth Deg i Fenywod Cymru ar gyfer gwell addysg am lesiant mislif, gyda chefnogaeth sefydliadau fel Endometriosis UK a sawl un arall. Ac efallai y byddwch chi'n gofyn, pan fo cynifer o agweddau eraill ar iechyd, pam yr ydym ni'n defnyddio'r Bil hwn i dynnu sylw at yr un agwedd benodol hon. A'r ateb, yn syml, yw oherwydd ei bod wedi bod yn dabŵ cyhyd. Mae hanner y boblogaeth yn cael y mislif am o leiaf hanner eu bywydau, a'r hanner arall yn aelodau o'r un teulu, ac felly mae eu mam, eu gwraig, eu chwaer, profiad eu merch yn effeithio arnyn nhw, ac mae'n ymddangos nad oes neb yn gwybod beth sy'n normal neu ddim. Mae menywod yn dioddef pob math o gyflyrau sy'n gysylltiedig â'r mislif gan nad ydyn nhw'n gwybod yn wahanol, yn ceisio cymorth mewn amgylchiadau eithafol, ac yn dod o hyd i ormod o ymarferwyr meddygol yn anwybodus o ran diagnosis posibl, ac weithiau'n ddiystyriol eu hagwedd. Mae'r cwricwlwm hwn yn rhoi cyfle i'n holl blant fod yn aeddfed ynghylch bod yn oedolyn, ac mae'r gwelliannau hyn yn ymwneud ag atal ysgolion rhag dianc rhag gorfod ei addysgu. Gobeithio y bydd hyn hefyd yn ysgogi mwy o alw am fwy o ymchwil i therapïau neu hyd yn oed iachâd.
Efallai mai'r lle amlycaf i geisio ymgorffori hyn fyddai ym maes iechyd a lles dysgu a phrofiad, ond rwyf i wedi cymryd fy arweiniad gan y Gweinidog ei hun yng Nghyfnod 2, pan eglurodd hi fod ganddi hi hefyd ddiddordeb mewn dod o hyd i ffordd o gynnig sicrwydd cryfach ar hyn. Rwy'n gwybod bod pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn yn ddiolchgar iawn o glywed hynny. A, Gweinidog, chi a awgrymodd y gallai'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn ffordd o wneud hyn. Felly, gan ddarllen rhwng y llinellau, oherwydd bydd y cod yn orfodol, gan gynnwys llesiant mislif yno yn hytrach nag yn arweiniad meysydd dysg a phrofiad, mae'n ffordd o gynnig y sicrwydd hwnnw heb fod angen y gwelliannau hyn, neu hyd yn oed yn y datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig'. Mae'n debyg mai un gwahaniaeth yw y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn dod gerbron y Senedd hon i'w gymeradwyo, ac rwyf i'n cymeradwyo hynny. Dim ond gwneud yn siŵr ydw i— a ydw i ar y trywydd iawn ynglŷn â pham y gwnaethoch chi sôn am y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghyfnod 2? Diolch.
Rwy'n falch o siarad mewn dadl heddiw i gefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon sy'n briodol yn ddatblygiadol, sy'n gynhwysol ac sy'n seiliedig ar gydraddoldeb ar gyfer pob plentyn yng Nghymru. Bydd yr Aelodau hynny sydd wedi darllen ein hadroddiad pwyllgor Cyfnod 1 yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi rhoi ein cefnogaeth unfrydol i'r cynlluniau, ar ôl gwrando'n astud ar y dystiolaeth yr oeddem ni wedi'i chlywed. Mae'r ffaith bod pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau'r Senedd wedi dod i farn mor glir a diamwys ar hyn yn dyst i bŵer y dystiolaeth yr oeddem ni wedi'i chael. Bydd y rhai ohonoch a oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl Cyfnod 1, rwy'n siŵr, yn cofio cyfraniad pwerus Laura Jones, gan ddisgrifio sut, fel rhiant, yr oedd wedi bod yn poeni ynghylch y cynlluniau ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond ar ôl gwrando ar y dystiolaeth, mae hi nawr yn cydnabod y manteision y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon yn ei gynnig i blant a phobl ifanc, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymgysylltu adeiladol y pwyllgor cyfan ar hyn.
Hoffwn i gydnabod yr holl sefydliadau ac unigolion hynny a wnaeth achos mor gryf dros addysg cydberthynas a rhywioldeb i'r pwyllgor: NSPCC Cymru Wales, Cymorth i Fenywod Cymru, Stonewall Cymru, Brook Cymru, yr Athro E.J. Renold, a Chomisiynydd Plant Cymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn wedi ysgrifennu'n unigol at ASau yn y dyddiau diwethaf, gan gyflwyno achos dros addysg cydberthynas a Rhywioldeb o safbwynt mwy arbenigol nag y gallwn i honni ei fod wedi'i gael erioed.
Hoffwn i ddiolch hefyd i Kirsty Williams am ei hymrwymiad i wneud yr hyn sy'n iawn i blant a phobl ifanc yn hyn o beth. Nid yw hwn yn fater hawdd, a byddai wedi bod yn rhy hawdd iddi hi roi hyn yn y blwch 'rhy anodd'. Ond nid dyna'r Kirsty Williams yr wyf i'n ei hadnabod, ac rwyf i eisiau ei chanmol hi am ei dewrder a'i chadernid wrth ymdrin â hyn. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blant a phobl ifanc.
Nawr, mae llawer o'r hyn y mae modd ei ddisgrifio'n gamwybodaeth, ar y gorau, yn cylchredeg ynghylch y cynlluniau hyn. Gobeithio y caiff yr Aelodau eu calonogi gan y pwyso a gwrthbwyso sydd ar waith, yn enwedig y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb statudol, y bydd yn rhaid i'r Senedd hon ei gymeradwyo. Rwy'n gobeithio hefyd bod Aelodau'n barod i ymddiried yn ein hathrawon, y gweithwyr proffesiynol y byddwn ni'n gofyn iddyn nhw ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb. Felly, nid wyf i eisiau canolbwyntio heddiw ar y gamwybodaeth na'r hyn nad yw addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei wneud; rwyf i eisiau canolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, beth yw addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon.
Hawl plentyn yw addysg cydberthynas a rhywioldeb. Rydym ni yn llygad ein lle'n ymfalchïo yn y Senedd hon yn ein hymrwymiad i hawliau plant. Weithiau, rydym ni, gan gynnwys fi fy hun, yn manteisio ar y cyfle i ddweud yn y Senedd yr hoffem ni i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Wel, yr ymrwymiad i addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y Bil hwn yw hawliau plant ar waith. Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ymwneud â chadw ein plant yn ddiogel. Fel y dywedodd NSPCC Cymru wrth ein pwyllgor:
Rydym ni'n ymwybodol fod addysg cydberthynas a rhywioldeb o safon yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol i blant, ond fel ei swyddogaeth fwyaf sylfaenol, mae'n helpu i gadw plant yn ddiogel rhag niwed. Ac mae'r cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol newydd yng Nghymru wir yn dod â photensial cyffrous i sicrhau bod gan bob plentyn y wybodaeth a'r iaith sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall bod ganddyn nhw'r hawl i ddiogelwch, i adnabod pob math o ymddygiad camdriniol neu reoli ac i'w grymuso i godi eu llais a chael cymorth cyn gynted â phosibl.
Ond mae hyn wrth gwrs yn fwy nag ymwneud â phlant; mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu'r sylfeini i'r plant a'r bobl ifanc hynny dyfu i ffynnu mewn perthynas ddiogel a pharchus.
Yn olaf, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn ymwneud â diogelu iechyd meddwl ein plant. Perthnasoedd cryf a chadarnhaol yw'r sylfaen hanfodol ar gyfer iechyd meddwl da, ac rwy'n croesawu'n arbennig yr ymrwymiad y dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn gynhwysol o ran pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol ac yn seiliedig ar gydraddoldeb. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na diogelu iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc, ac yn benodol, atal hunanladdiad pobl ifanc. Ac, yn drasig, mae yna bobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad oherwydd bwlio homoffobig neu oherwydd nad oedd eu rhywioldeb wedi'i dderbyn. Pan gafodd y cynlluniau addysg cydberthynas a rhywioldeb eu cyhoeddi am y tro cyntaf, cysylltodd etholwr â mi i ddweud gymaint yr oedd yn croesawu'r cynlluniau. Dywedodd ef wrthyf i mai prin yr oedd wedi goroesi tyfu i fyny fel bachgen hoyw yn ei arddegau mewn teulu lle nad oedd ei rywioldeb yn cael ei dderbyn, a dywedodd ef wrthyf gymaint o wahaniaeth y byddai cael mynediad i addysg cydberthynas a rhywioldeb gynhwysol wedi'i wneud iddo. Felly, dywedaf i wrth yr Aelodau heddiw mai'r plant a'r bobl ifanc nad ydyn nhw'n cael negeseuon o gefnogaeth a chynwysoldeb gartref yw'r rhai sydd angen addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn fwy na neb arall. Heb unrhyw amheuaeth, i rai plant a phobl ifanc, mater o fyw neu farw yw hyn.
Rwy'n croesawu gwelliant 40 yn enw Suzy Davies, ac rwy'n diolch iddi hi am ei gyflwyno. Fel y dywedodd hi, mae'n gweithredu argymhelliad yn ein hadroddiad Cyfnod 1 ac yn sicrhau bod y manteision yr wyf i wedi'u disgrifio hefyd ar gael i'n dysgwyr ôl-16. Ond rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau Darren Millar yn y grŵp hwn a chefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb, a fydd yn newid bywydau cynifer o bobl ifanc, a hyd yn oed yn achub bywydau rhai. Diolch yn fawr.
Mae Plaid Cymru hefyd yn llwyr gefnogol i wneud addysg cydberthynas a rhyw yn statudol. Rydym ni'n cefnogi'r Llywodraeth yn llwyr ar y mater yma, a dwi hefyd yn canmol y Gweinidog am ei hymroddiad yn y maes yma. A dyma ni heddiw yn gweld Senedd Cymru ar ei gorau, yn bod yn flaengar, yn gweithio efo'n gilydd, yn bod yn gadarn ar fater hollbwysig. Rydym ni hefyd yn cefnogi ychwanegu addysg lles mislifol ac yn gweld synnwyr rhoi diweddariad i rieni, a bod disgyblion ôl 16 hefyd yn gallu cael mynediad at addysg cydberthynas a rhyw, ac yn diolch i Suzy am ddod â'r gwelliannau yna ymlaen.
Mae Aelodau etholedig ein plaid ni wedi dadlau yn gyson ers blynyddoedd lawer mai addysg ydy'r allwedd i greu newid yn y maes yma, a da gweld hyn yn dod yn realiti o'r diwedd. Bydd addysg cydberthynas a rhyw statudol, gorfodol yn galluogi ysgolion i rymuso pob dysgwr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u gwerthoedd, a gwneud hynny mewn ffordd raddol, fel y gallan nhw fwynhau eu hawliau i gael perthnasoedd diogel ac iach drwy gydol eu hoes. Drwy fod yn berthnasol, yn sensitif ac yn briodol i alluoedd ac anghenion y plant eu hunain, mi fydd ysgolion rŵan yn gallu datblygu cynnwys o ansawdd uchel, gwireddu llu o ganlyniadau hollol gadarnhaol a ddaw yn sgil hyn, a gwarchod hefyd ein plant, ein pobl ifanc ni a'n cymunedau ni.
Rwy'n cytuno â phopeth y mae Lynne wedi'i ddweud, a hoffwn i ganmol y gwaith gwych a wnaed gan y pwyllgor plant a phobl ifanc i gael y consensws hwnnw ynglŷn â phwnc mor bwysig. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod hyn yn ymwneud â hawliau plant, ac yn arbennig yr hawliau i ddeall sut y mae eu cyrff eu hunain yn gweithio, yn ogystal â'u hawliau i sicrhau eu bod nhw dim ond yn cynnwys unrhyw un yn eu bywydau os byddan nhw eisiau, a dyma beth fydd yn eu hamddiffyn. Rwyf i hefyd yn cytuno â hi bod llawer o nonsens wedi'i ddweud ynglŷn â hyn. Rydym ni wedi ein cyhuddo o wneud gwaith rhieni, pan, mewn gwirionedd, mae'n hollol iawn ein bod yn sicrhau bod gan blant yr hawl i wybod sut y mae eu cyrff yn gweithio. Mae hyn yn gliriach mewn addysg mislif nag unrhyw le arall. Mae'n sgandal gwirioneddol nad yw o leiaf 30 y cant o'r holl ferched yn gwybod beth sy'n digwydd iddyn nhw pan fyddan nhw'n dechrau eu mislif. Mae hynny'n arwydd mor glir bod rhieni yn teimlo embaras ac yn ei chael yn anodd a'u bod nhw'n osgoi siarad am bwnc mor sylfaenol i'r merched yn eu teulu fel bod yn rhaid i ni sicrhau bod pob merch yn gwybod am hyn er mwyn osgoi'r trawma o waedu rhwng eu coesau heb sylweddoli beth ydyw.
Hoffwn i ganmol gwaith Suzy Davies wrth gael y dewrder a'r cryfder i barhau i weithio ar bwysigrwydd lles mislif—nid dim ond beth yw mislif, ond lles mislif—fel ein bod ni i gyd yn deall beth yw mislif arferol, ac y gallwn ni fynd am gymorth pan nad yw hynny'n digwydd. Mae mis Mawrth yn fis Mawrth endometriosis. Mae hwn yn rhywbeth sydd, yn anffodus, yn effeithio ar lawer iawn o ferched a menywod, a'r cynharaf y byddwn yn ei ganfod, y mwyaf tebygol y gallwn ei osgoi rhag bod yn glefyd erchyll iawn sy'n effeithio ar bobl drwy gydol eu hoes. Felly, rwy'n falch iawn, o ganlyniad i waith Suzy Davies, fod gennym ni yr agwedd orfodol honno ar y cod cydberthynas a rhywioldeb gan gynnwys lles mislif erbyn hyn. Mae'n ymddangos i mi fod hon hefyd yn garreg filltir wirioneddol, o ystyried y rhagfarn yn erbyn menywod a merched ledled y byd dim ond oherwydd ein bod yn cael y mislif. Diolch, Suzy Davies, am eich holl waith caled. Mae'n wych gweld yr ymateb gan y Gweinidog bod gennym ni les mislif yn y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb bellach.
Rwy'n ymddiheuro nad yw Darren Millar wedi ei alw i gynnig gwelliant yn y grŵp hwn. Fe'i galwaf yn awr. Darren.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf welliannau 41 a 42 a gwelliannau 20, 21 a 22, ac maen nhw i gyd wedi eu cyflwyno yn fy enw i. A gaf i ei gwneud yn glir ar ddechrau fy nghyfraniad at y ddadl hon fy mod i'n llwyr gefnogi'r egwyddor y dylai plant fod yn cael eu haddysgu ynglŷn â rhyw a pherthnasoedd sy'n eu cadw nhw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n eu galluogi i fod â'r wybodaeth i wneud dewisiadau? Rwyf i hefyd yn cytuno y dylid cael addysg sy'n briodol iddyn nhw o ran addysg mislif ac yn y blaen. Ond rwy'n ofni y gallai'r Bil, fel y mae ar hyn o bryd, fod â llai o allu i gyflawni'r amcan hwn nag y gallai fod.
Mae fy ngwellianau 41 a 42 yn ceisio gosod gofynion ar wyneb y Bil ynglŷn â chynnwys cod addysg cydberthynas a rhywioldeb arfaethedig Llywodraeth Cymru—y cod RSE, fel y mae'r Bil yn ei ddisgrifio. Ar hyn o bryd, nid oes dim ar wyneb y Bil i bennu cynnwys y cod. Mae'r fframwaith deddfwriaethol presennol ynghylch addysgu'r pwnc sensitif hwn, addysg cydberthynas a rhywioldeb, sef Deddf Addysg 1996, yn cynnwys rhai mesurau diogelu sylfaenol ar gyfer addysgu addysg rhyw. Fe'u cyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur y DU yn ôl yn 2001, ac ymatebodd y mesurau diogelu hynny i angen gwirioneddol ar y pryd i roi cyfeiriad mwy cadarnhaol i'r pwnc. Ond mae Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn ceisio datgymhwyso'r mesurau diogelu hyn yma yng Nghymru heb roi unrhyw beth tebyg yn eu lle i sicrhau bod dibenion elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael eu bodloni'n briodol.
Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol bod elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yn, ac rwy'n dyfynnu, 'briodol i ddatblygiad'. Ond, wrth gwrs, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Pe byddai'n dod yn gyfraith, byddai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn nodi themâu a materion i'w cynnwys yn elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru. Ond mae fy ngwelliant 41 i yn gosod gofynion ar wyneb y Bil o ran cynnwys y cod hwnnw er mwyn sicrhau bod yn rhaid i blant a disgyblion ddysgu am y pethau canlynol: yn gyntaf, natur cydberthynas hirdymor, gan gynnwys priodas, a'i phwysigrwydd i fywyd teuluol a magu plant—ac, wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth sy'n efelychu yn union beth sydd eisoes yn Neddf Addysg 1996—ac yna, yn ogystal â hynny, pwysigrwydd diogelwch wrth ffurfio a chynnal cydberthynas, nodweddion cydberthynas iach, sut y gall cydberthynas effeithio ar iechyd a lles corfforol a meddwl, sut y mae gwerthoedd yn dylanwadu ar agwedd pobl at ryw a chydberthynas a phwysigrwydd parchu gwerthoedd pobl eraill o ran rhyw a chydberthynas.
Mae'r rhain i gyd yn bethau y mae siaradwyr eraill wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl hon, felly nid oes anghytuno rhyngom. Rwyf i'n dymuno sicrhau bod gan bobl berthynas iach â'i gilydd, a dyna pam rwyf i'n credu ei bod yn bwysig bod y pethau hyn ar wyneb y Bil. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cyfeirio at y pethau hyn hefyd yn Siambr y Senedd, ac, yn wir, yn y pwyllgor pan ofynnwyd amdanyn nhw. Nid yw'r un o'r rhain yn ddadleuol, ac mae'r Gweinidog ei hun wedi awgrymu y dylai cod addysg cydberthynas a rhywioldeb effeithiol gynnwys cyfeiriadau at bob un ohonyn nhw. Ond, wrth gwrs, ar ddiwedd y tymor Senedd hwn, efallai na fydd hi yma i fod yn Weinidog, ac mae hynny'n golygu y bydd rhywun arall yn etifeddu'r swydd weinidogol a'r cyfrifoldeb am ddatblygu'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac efallai y bydd gan yr unigolyn hwnnw agweddau gwahanol i rai y sawl un ohonom sydd wedi ei ethol yn y Senedd hon yn awr. Dyna pam rwyf i'n credu ei bod yn ddoeth i bob un ohonom roi'r pethau hyn ar wyneb y Bil ynglyn â'r cod.
Mae fy ngwelliant 42 yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i addysg cydberthynas a rhywioldeb yng Nghymru ystyried cefndiroedd crefyddol a diwylliannol disgyblion. Mae hyn yn wir ar hyn o bryd yng Nghymru ac yn Lloegr oherwydd Deddf Addysg 1996, ond mae Llywodraeth Cymru yn ceisio datgymhwyso'r gofyniad hwn yng Nghymru gyda'r Bil newydd hwn. Rwyf i'n credu bod hynny yn gam yn ôl. Mae'n gam yn ôl mewn cymdeithas fel Cymru fodern, cenedl sy'n dyheu am fod yn oddefgar ac yn barchus tuag at bobl o bob ffydd a diwylliant. Rwy'n credu y bydd cyflwyno'r amddiffyniadau hyn yn cryfhau'r Bil ac yn cryfhau ein hymrwymiad yma yng Nghymru i roi gwybodaeth i blant am berthnasoedd sy'n parchu eu magwraeth, yn parchu eu diwylliant a'u ffydd.
Dywed y Gweinidog y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb, nad oes neb, wrth gwrs, wedi ei weld eto, yn rhoi rhywfaint o eglurder a hyder i rieni ynglŷn â'r hyn y bydd ac na fydd yn cael ei addysgu, ond gan nad ydym ni wedi ei weld, ni allwn gael yr hyder hwnnw, ac oherwydd nad yw rhieni wedi ei weld, nid ydyn nhw wedi cael yr hyder hwnnw. Dyna'r hyn sydd wedi arwain, yn fy marn i, at rywfaint o'r wybodaeth anghywir y mae Lynne Neagle a Jenny Rathbone wedi cyfeirio ati. Rwyf i'n credu os gallwn ni roi mwy o wybodaeth ar wyneb y Bil am gynnwys y cod, fe fydd yn rhoi'r hyder hwnnw y mae angen i rieni ei weld.
Gan symud ymlaen yn fyr at fy ngwelliannau 20, 21 a 22, mae'r gwelliannau hyn yn ychwanegu adrannau newydd at y Bil i roi'r hawl i rieni dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb os ydyn nhw o'r farn ei bod yn amhriodol ar eu cyfer. Mae'r hawliau hyn i rieni, wrth gwrs, yn bodoli yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y Bil yn eu dileu ac yn tanseilio'r egwyddor bwysig mai rhieni, nid y wladwriaeth, yw prif addysgwyr eu plant. Mae methu â chynnwys hawl i rieni dynnu plant allan o wersi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hefyd yn ymddangos fel pe bai'n mynd yn groes i adran 9 o Ddeddf Addysg 1996, sy'n dweud bod plant i gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau eu rhieni.
Bydd y ddarpariaeth benodol honno yn Neddf Addysg 1996 yn dal i fod yn gyfraith yng Nghymru hyd yn oed os daw'r Bil sydd ger ein bron heddiw yn Ddeddf. Ni fydd y Bil yn gwneud unrhyw beth i ddileu erthygl 2 o brotocol 1 y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol ychwaith, sydd, wrth gwrs, wedi'i ymgorffori yng nghyfraith y DU gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae'r protocol hwnnw yn datgan bod yn rhaid i'r wladwriaeth barchu hawliau rhieni i gael addysg i'w plant sy'n cyd-fynd â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol. Bydd fy ngwelliannau, pe cytunir arnyn nhw, yn ceisio sicrhau bod y Bil hwn yn gydnaws â darpariaethau Deddf Addysg 1996 a'r Ddeddf Hawliau Dynol, sydd eisoes ar y llyfr statud.
Mae rhieni wedi bod â'r hawl ers tro byd i gael tynnu eu plant allan o'r ddau bwnc sy'n ennyn cwestiynau am farn teuluoedd yn y byd, sef wrth gwrs addysg rhyw ac addysg grefyddol. Mantais y defnydd posibl o'r hawl hon i dynnu'n ôl yw ei bod yn gymhelliant i ysgolion ymgysylltu'n rhagweithiol â rhieni ynglŷn ag addysg eu plant drwy ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion eistedd a gwrando ar bryderon rhieni er mwyn lleihau'r achosion hynny o dynnu'n ôl. Ac, wrth gwrs, anaml iawn y maen nhw wedi eu harfer ledled Cymru dros y blynyddoedd lawer y maen nhw wedi bod ar waith, oherwydd yr ymgysylltiad mawr y maen nhw wedi'i arwain. Felly, Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliannau yn y grŵp hwn.
Y rhan hon o'r Bil sydd wedi rhoi'r pryder mwyaf i mi. Pe na byddai'r Bil wedi dileu hawliau rhieni i gael tynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, rwy'n credu y byddai wedi cael llai o wrthwynebiad. Meddyliais yn ofalus ac yn hir am gyflwyno gwelliannau i alluogi rhieni i dynnu eu plant allan o wersi addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond dywedwyd wrthyf y byddai eithriad o'i fath yn anymarferol. Felly, dewisais, yn lle hynny, bleidleisio yn erbyn y Bil yn ei gyfanrwydd. Dywedir wrthyf mai'r ffordd y bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb ac, yn wir, crefydd, gwerthoedd a moeseg, yn cael eu haddysgu yw ar draws y cwricwlwm cyfan, nid mewn gwersi ar wahân. Yr hyn y mae hyn yn ei olygu'n ymarferol yw y byddai'n anodd eithrio plant o wersi crefydd, gwerthoedd a moeseg gan y gallai arwain at blant yn colli allan ar ddiwrnodau cyfan o wersi.
Cefais gyngor hefyd y gallai cynnig ymeithrio o'r fath fod yn agored i her gyfreithiol o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, gan ei fod yn amharu ar hawliau plant a phobl ifanc sydd â'r gallu i benderfynu drostyn nhw eu hunain. Rwy'n credu'n angerddol y dylai gwersi cydberthynas a rhywioldeb, yn enwedig i'r plant ieuengaf, fod yn fater i rieni benderfynu arno ac nid y wladwriaeth. Rydym ni wedi gweld rhieni'n gwrthod y syniad o ddileu gallu rhieni i ymeithrio, nid unwaith ond dwywaith. Felly, mae'n rhaid i chi feddwl tybed a yw'r ffaith ei bod yn amhosibl tynnu plant o wersi cydberthynas a rhywioldeb bellach yn bwrpasol. Nid wyf i'n gweld unrhyw ddewis ond gwrthod y Bil yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, hoffwn i gefnogi rhai o'r gwelliannau yn y grŵp hwn.
Rwy'n cefnogi ychwanegu lles mislif at y cwricwlwm. Mae rhai plant yn dioddef symptomau gwanychol posibl o endometrosis am y rhan fwyaf o'u bywyd ysgol, a bydd dysgu am les mislif yn yr ysgol yn golygu na fydd yn rhaid i blant ifanc ddioddef yn dawel. Byddaf i'n cefnogi gwelliant Darren Millar sy'n ceisio adfer rhyw fath o ymeithrio gan rieni a'i ymgais i sicrhau bod y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ystyried natur perthnasoedd hirdymor, gan gynnwys priodas, a'u pwysigrwydd ar gyfer bywyd teuluol a magu eu plant. Felly, er fy mod i'n derbyn na fydd gwrthod penderfyniadau'r Llywodraeth ar addysg cydberthynas a rhywioldeb gen i yn dwyn fawr o bwys, rwy'n gobeithio y bydd eraill sy'n rhannu fy mhryderon hefyd yn cefnogi gwelliannau 20 i 22, 40 a 41. O leiaf gyda'r gwelliannau hyn, gallwn gyfyngu ar yr effaith. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hwn yn grŵp mawr o welliannau â chryn amrywiaeth o effeithiau posibl ar y ddeddfwriaeth, felly byddaf i'n ceisio mynd drwyddyn nhw nid o reidrwydd mewn trefn, ond mewn grwpiau, os yw hynny'n iawn, gan ddechrau gyda'r hawsaf yn gyntaf. Hynny yw gwelliant rhif 40 yn enw Suzy Davies, sy'n galluogi dysgwyr ym mlynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion i ofyn am addysg cydberthynas a rhywioldeb, a phan ofynnir amdani, mae'n ofynnol i bennaeth ysgol o'r fath ei darparu. Mae hyn yn cyfateb yn fras, fel y dywedodd Suzy, i'r system sydd ar waith ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i ddysgwyr yn y chweched dosbarth mewn ysgolion, ac er mai ein barn ni erioed yw bod y Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm eang a chytbwys i'r grwpiau oedran 3 i 16 oed, mae'r pwyntiau y mae Suzy a'r pwyllgor wedi eu gwneud o ran plant hŷn yn rhai perswadiol yn fy marn i. Felly, byddwn i'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant rhif 40 a gyflwynir heddiw. Rwy'n credu ei bod yn iawn dweud bod rhai agweddau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb a allai fod yn nes at brofiad byw y dysgwr yn ystod y rhan benodol hon o'u blynyddoedd tyfu i fyny, ac felly, mae cael y cyfle i gael lle diogel ac adeiladol i siarad am faterion y gallan nhw fod yn mynd drwyddyn nhw bryd hynny yn berthnasol, felly rwyf i yn gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 40.
Yna, gan droi at welliannau 2 a 4, sy'n ymwneud â mater iechyd mislif. A gaf i ddiolch i Suzy Davies a Jenny Rathbone am eu sylwadau yn y ddadl heddiw ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod ein holl blant, yn fechgyn ac yn ferched, yn hyddysg a bod ganddyn nhw'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall y broses gwbl naturiol hon? Ers gormod o flynyddoedd ac i ormod o blant, nid yw hynny wedi digwydd, ac mae canlyniadau hynny yn sylweddol. Ond soniodd Suzy a Jenny am yr anawsterau weithiau wrth nodi beth ddylai mislif arferol fod, ac oni bai ein bod yn trafod y materion hyn, sut y gall menyw lunio barn ar gyflwr ei hiechyd ei hun a chymryd y camau angenrheidiol i geisio cymorth ar gyfer cyflwr? Ac rydym ni'n gwybod, i lawer iawn, iawn o fenywod a merched, gallan nhw ddioddef yn dawel am flynyddoedd yn hytrach na cheisio triniaeth a all leddfu eu symptomau a negyddu'r effaith y gall rhai cyflyrau fel endometrosis, syndrom ofari polysystig neu fislif trwm iawn ei chael ar eu hiechyd corfforol, eu lles meddyliol, a'u gallu i wneud yr hyn y maen nhw eisiau ei wneud â'u bywydau.
Nawr, unwaith eto, mewn ymgais i geisio cadw at egwyddorion sut y caiff y Bil ei greu, ond gan ddymuno hefyd sicrhau bod sicrwydd ynghylch y mater hwn, yna rwyf i yn ymrwymo yn llwyr ac wedi cael sicrwydd y bydd lles ac iechyd mislif yn rhan o'n cod addysg cydberthynas a rhywioldeb statudol, ac fel y cyfeiriodd Suzy ato yn ei dadl, bydd y cod hwnnw yn ddarostyngedig—o ganlyniad i welliannau a gyflwynwyd gen i yng Nghyfnod 2—i bleidlais yn y fan yma yn y Senedd. Felly, Aelodau'r Senedd eu hunain fydd yn gallu pleidleisio ar y cod hwnnw mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio, Suzy, bod hynny yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnoch y bydd y pynciau hyn yno, y bydd yn ofynnol eu haddysgu, ac y bydd materion sy'n ymwneud ag iechyd a lles rhywiol, ein cyrff a delwedd corff, yn rhan wirioneddol bwysig o'r cod hwnnw wrth symud ymlaen.
Felly, os caf i droi at y gwelliannau eraill yn y grŵp, a gaf i ofyn i'r Senedd wrthod gwelliant 41? Mae pwyslais cryf ar ddatblygu perthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd, ac mae bod yn unigolion iach a hyderus wrth gwrs yn un o bedwar diben ein cwricwlwm newydd, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r perthnasoedd iach hynny sydd mor hanfodol i bob un ohonom. Yn y cwricwlwm newydd, mae'r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn ymwneud â datblygu gallu dysgwyr i lywio cyfleoedd bywyd a'i heriau, ac elfennau sylfaenol y maes hwn yw iechyd a datblygiad corfforol, iechyd meddwl a lles cymdeithasol emosiynol ac mae deall perthnasoedd iach yn amlwg yn greiddiol i hyn.
Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb o ansawdd uchel ran hanfodol i'w chwarae o ran cynorthwyo dysgwyr i gydnabod perthnasoedd iach a diogel, a deall a datblygu parch at wahaniaethau rhwng pobl, a'r amrywiaeth o berthnasoedd a welwn yn cael eu hadlewyrchu o'n cwmpas mewn Cymru fodern. Nawr, bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn galluogi ein plant a'n pobl ifanc yn raddol i ddatblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd y perthnasoedd hynny drwy gydol eu hoes, gan ddechrau, wrth gwrs, gyda'n plant ieuengaf, gyda'u ffrindiau a'u teuluoedd, a chynnwys yr hyn sy'n gwneud perthynas hapus ac iach pan fyddan nhw'n hŷn.
Yn ogystal, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i'w gydnabod yw bod y canllawiau drafft a gyhoeddwyd yn rhan o Gwricwlwm i Gymru yn glir iawn y dylid cynllunio'r cwricwlwm i ddiwallu anghenion dysgwr unigol ysgol. Yn rhan o hyn, dylid cynnal sgwrs barhaus â'r ysgol gyfan a thu hwnt, gan ymgysylltu â rhieni a gofalwyr a'r gymuned ehangach, a dylai gael ei lywio gan werthoedd ac ethos yr ysgol, yn ogystal â'i leoliad a'r cyffiniau. Felly, Suzy a Darren, ymhell o fod eisiau cwtogi dadl a thrafodaeth gyda rhieni, ein disgwyliad yw y bydd hynny yn digwydd. Dyma holl ethos y cwricwlwm newydd: ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach ar ei ddatblygiad. Mae hynny'n berthnasol i bob maes, nid addysg cydberthynas a rhywioldeb yn unig. Suzy, byddwch chi'n gwybod nad wyf i eisiau neilltuo addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer y driniaeth ddeddfwriaethol benodol hon, gan fy mod i'n credu y bydd hynny'n cyfrannu at y naratif niweidiol y mae rhai pobl yn benderfynol o'i ddilyn bod addysg cydberthynas a rhywioldeb ychydig yn wahanol ac yn beryglus. Nid yw'n beryglus. Mae'n gwbl gefnogol i iechyd meddwl ein dysgwyr, eu lles, ac, fel y nododd Lynne Neagle, eu diogelwch yn y pen draw. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gwrthod y gwelliannau hynny.
Rwyf i hefyd yn gofyn i'r Aelodau wrthod gwelliannau 8 a 10. Fel yr wyf wedi'i amlinellu o'r blaen, mae canllawiau'r cwricwlwm yn glir iawn y dylid cynllunio cwricwlwm i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol ysgolion, ac yn rhan o hyn, dylid cael y sgyrsiau parhaus hynny. Mae hynny'n cynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Rwy'n gwrthod gwelliant 42. Nawr, rwy'n deall ac rwy'n cydnabod bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn codi materion cymhleth sy'n treiddio drwy ein holl fywydau. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei darparu mewn modd lluosog. Er enghraifft, mae newid yr enw i symud y pwyslais i ffwrdd o'r ochr ryw ohoni a'r pwyslais mawr iawn ar gydberthynas, yn dweud y cyfan y mae angen i chi ei wybod am ddull gweithredu'r Llywodraeth hon. Mae yna reswm y tu ôl i hynny. Mae'n dangos ehangder y pwnc a'r cysyniadau y dylid eu cynnwys. Sawl gwaith, pan wnaethom ni siarad mewn Senedd flaenorol am drais domestig, y gwnaethom ni sôn am yr angen i addysgu plant—unwaith eto, y bechgyn a'r merched—am beth yw perthynas iach, a beth yw ein cyfrifoldebau personol ein hunain o fewn perthynas i drin unigolion eraill â pharch?
Fel y dywed Darren, mae'n darparu ar gyfer cod, ac rwy'n derbyn eich pwynt, Darren. Nid wyf i wedi ei gwneud yn haws i mi fy hun. Pe byddai'r cod yma, efallai y gellid bod wedi osgoi rhai o'r pethau hyn, ac rwy'n derbyn hynny. Nid oes dim dianc rhag y peth. Nid wyf i wedi ei gwneud yn haws i mi fy hun. Ond rwy'n gobeithio, trwy gyflwyno'r gwelliannau yng Nghyfnod 2, sy'n rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd—boed yn y Senedd hon, ond yn debygol, yr un newydd—bleidleisio ar y cod, y dylai roi sicrwydd nad ydym yn ceisio sleifio unrhyw beth drwodd yma, na bod yn ymrannol, na pheidio â bod yn gwbl dryloyw—. Fe fydd cyfle i'r Aelodau bleidleisio, craffu ar y cod hwnnw, a phleidleisio arno, ac os nad ydyn nhw'n cymeradwyo yr hyn sydd yn y cod hwnnw, yna bydd yr Aelodau hynny yn gallu pleidleisio yn ei erbyn. Felly, nid yw'r pŵer eithaf yma yn fy nwylo i, fel y Gweinidog presennol, nac yn wir yn nwylo Gweinidog y dyfodol. Bydd y pŵer gydag Aelodau'r Senedd.
Wrth gwrs, bydd hefyd yn ofynnol i'r cod fod yn briodol yn ddatblygiadol ar gyfer oedran y disgyblion. Rwy'n gwybod bod pobl yn dweud weithiau, 'Wel, sut gall hynny ddigwydd, oherwydd yn yr ystafell ddosbarth, bydd gennych chi blant ar wahanol gamau o'u datblygiad?' Mae gan ein hathrawon sgiliau gwahaniaethu da. Maen nhw'n gwneud hyn bob un dydd o'u bywydau gwaith. Mae angen i ni eu cynorthwyo i wneud hynny o fewn addysg cydberthynas a rhywioldeb, a dyna beth fydd y cod yno, a bydd y canllawiau statudol yno, i'w wneud.
O ran gwelliannau 20, 21 a 22, a fyddai'n caniatáu i ddysgwyr gael eu heithrio rhag derbyn addysg cydberthynas a rhywioldeb gan eu rhieni, mae gan rieni, wrth gwrs, ran ganolog i'w chwarae fel addysgwyr eu plant, ac nid oes dim yn y ddeddfwriaeth hon sy'n eu hatal rhag parhau i wneud hynny, ac i allu cael y sgyrsiau hynny gyda'u plant eu hunain. Ond rydym ni hefyd wedi dweud bod gan ysgolion swyddogaeth hefyd, ac rwy'n credu bod y swyddogaeth honno yn bwysicach nag erioed bellach. Mae gan ysgolion y potensial i greu amgylchedd diogel a grymusol i adeiladu ar ddysgu a phrofiadau ffurfiol ac anffurfiol y dysgwyr. Ac fel y dywedodd Lynne Neagle, weithiau, y plant y mae angen y cymorth hwn arnyn nhw fwyaf yw'r plant hynny nad ydyn nhw, am ba bynnag reswm, yn gallu cael y cymorth hwnnw gartref, ac mae'r ysgol yn dod yn bwysicach fyth wrth greu'r man diogel hwnnw iddyn nhw.
Rydym ni i gyd wedi dweud y prynhawn yma ei bod yn bwysig iawn bod plant yn cael dysgu am y pynciau hyn, ond yna mae rhai ohonom wedi dweud, 'Oni bai bod y rhieni'n penderfynu nad yw hynny'n wir.' Wrth i ni ystyried effaith COVID-19, des i'n ymwybodol yn ddiweddar o athro a ddaeth, wrth gynnal archwiliadau llesiant, yn ymwybodol o grŵp o ddynion ifanc a oedd wedi magu'r dewrder yn ystod gwyliau'r haf ac wedi bod yn ddigon dewr i gyfaddef i'r athro hwnnw eu bod wedi datblygu arfer pornograffi. Ac roedden nhw wedi estyn allan i'r athro hwnnw i allu mynegi eu gofidiau a'u pryderon ynglŷn â hynny, ac roedd yr athro hwnnw yn estyn allan, yn chwilio am gymorth i allu helpu'r dynion ifanc hynny o dan yr amgylchiadau hynny. Os oes ganddyn nhw'r dewrder i ddod ymlaen a siarad am y materion hynny, rwyf i'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ddigon dewr i ymateb i hynny'n gadarnhaol, ac i sicrhau bod gan bob un o'n plant yr hawl i allu bod yn y man diogel hwnnw yn eu hysgolion i gael y cymorth yr ydym yn sôn amdano heddiw.
Darren, rydych chi'n sôn am hawliau, ac fe wnaeth Lynne Neagle hynny hefyd. Mae hwn yn sicr yn ddull gweithredu hawliau plant ar waith. Nawr, nid yw'r hawl i fynegi dewis o ran sut y dylid addysgu eich plant yn hawl absoliwt, ac mae'r Bil yn gwbl gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, gan gynnwys erthygl 2 ac erthygl 9.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â'r gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Fel y dywedais i, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi gwelliant 40. Rwy'n gobeithio y bydd Suzy Davies yn derbyn fy sicrwydd ynglŷn â chynnwys iechyd mislif ac yn tynnu gwelliannau 2 a 4 yn ôl, ac rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y lleill yn y grŵp. Diolch yn fawr.
Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Gobeithio na fydd ots gan yr Aelodau os cymeraf y cyfle hwn i roi clod mawr iawn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awr—i Lynne ac i'r tystion a ddaeth ger ein bron â thystiolaeth o bob safbwynt gwahanol ac, wrth gwrs, i staff y pwyllgor, oherwydd ni allaf orbwysleisio ymrwymiad pawb ar y pwyllgor hwnnw i fod yn gwbl ofalus ac yn sensitif trwy'r amser wrth holi'r dystiolaeth y gwnaethom ei chlywed wrth ystyried hyn. A daethom, wrth gwrs, i gasgliad unfrydol ar ôl craffu difrifol, a gyda'r hollbwysigrwydd o ran lles plant ar flaen ein meddwl trwy'r amser. A gaf i nodi unwaith eto pa mor barod oedd y Gweinidog i gytuno i'r pwynt ynghylch addysg cydberthynas a rhywioldeb ôl-16, ac rwy'n ddiolchgar iddi am ei chymorth gyda hynny?
Yn fyr iawn, soniodd Caroline Jones a Darren Millar am hawliau dynol yn gyffredinol. Fe wnaethom ni dreulio llawer o amser yn ystyried hawliau dynol ar y pwyllgor hwn, lle protocol 1, erthygl 2 y cyfeiriodd Darren ato, sut y mae hynny yn cyd-fynd â hawliau eraill plant ac, wrth gwrs, cael gwybod ein bod yn siarad drwy'r amser am hawliau amodol yn hytrach na hawliau absoliwt. Ac roeddwn i'n gallu gweld bod Caroline Jones wedi cael cyngor tebyg iawn i'r cyngor y gwnaethom ni ei glywed gan ein cyfreithwyr.
Bydd pobl yn gwylio hwn a fydd yn cael eu siomi os na fydd y gwelliannau ar les mislif yn cael eu cymeradwyo. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae mor bwysig i fechgyn yn ogystal â merched wybod am hyn. Ac rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf, o leiaf hyd y gallaf i gofio, fod iechyd menywod, ar wahân i ganser, wedi cael y lefel hon o sylw cyhoeddus. Mae ewyllys gwirioneddol yn ein cymdeithas erbyn hyn i gymryd camau gwell ar hyn. Mae'r ysgogiad hwn yn atgyfnerthu sut y mae rhoi sylw i hyn, fel yr ydym yn ei wneud yn awr, yn effeithio ar gynifer o feysydd polisi eraill—pethau fel darparu toiledau cyhoeddus, dylunio adeiladau, canllawiau i gyflogwyr, cyllidebu. Felly, nid dim ond menywod yn ystod eu mislif fydd yn elwa ar y ddealltwriaeth well hon o'r profiad bywyd naturiol hwn. Ond bydd yr Aelodau yn sicr o fod wedi sylwi, ac rwyf i yn mynd i ddweud hyn, Llywydd, gan fy mod i'n gallu, mai Aelodau Senedd benywaidd sydd wedi gwneud hyn yn bwynt deddfwriaeth, ac nid fi yn unig, Llywydd. Rydym ni wedi clywed gan Jenny, ond mae Aelodau benywaidd eraill yn y Siambr hon heddiw a wnaeth wthio ar yr agenda hon yn wirioneddol, ac ni fyddai manteision yr addysg hon i ddynion erioed wedi gweld golau dydd pe na byddai gan y Senedd hon fenywod sy'n barod i lusgo hyn i'r amlwg a'i wneud yn flaenoriaeth, a dangos bod yr hyn a allai edrych fel pwnc menywod ar yr olwg gyntaf yn bwnc cymdeithas mewn gwirionedd.
Rwy'n falch iawn o glywed yr hyn yr oedd gan y Gweinidog i'w ddweud. Fodd bynnag, yn wahanol i'r sefyllfa o ran sgiliau bywyd, nid ydym yn gwybod, heddiw, beth yn union y bydd y cod addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei ddweud am iechyd mislif. Dibynnodd Darren Millar ar y cam coll hwnnw i gefnogi rhai o'i welliannau ef hefyd. Felly, ychydig yn wrthreddfol, rwy'n mynd i wthio'r gwelliannau hyn i bleidlais heddiw nid oherwydd nad yw'r Gweinidog wedi cynnig sicrwydd, ac rydym ni i gyd yn ddiolchgar am hynny yma heddiw, gobeithio, ond i atgoffa'r Aelodau, pan fyddan nhw'n cael pleidleisio ar y cod yn y Senedd nesaf, bod angen iddyn nhw graffu'n ddigon agos arno er mwyn sicrhau ei fod yn ddigon cryf, wedi ei lywio'n dda gan yr ymgyrchwyr, a'i fod yn gwneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud er mwyn iddo gael ei addysgu'n effeithiol mewn ysgolion. Ond dyna'r unig reswm rwy'n mynd i'w cyflwyno i bleidlais, Llywydd. Diolch.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad. [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Suzy Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal a 28 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.
Cyn i ni symud ymlaen i grŵp 4, dim ond i ddweud fy mod i'n ymwybodol bod un Aelod, Neil McEvoy, wedi ceisio gwrthwynebu i'r cynnig i dynnu gwelliant 1 yn ôl, ac felly mae hynny'n fater o record. Ni welwyd Neil McEvoy gan y Dirprwy Lywydd ar y pryd. Os caf i eich atgoffa chi i gyd—pob un ohonoch chi—i gadw'ch camera ymlaen cyn gymaint ag y gallwch chi. Yn sicr, os ydych chi yn cymryd rhan naill ai yn y ddadl, y drafodaeth, neu eisiau cymryd rhan yn y cyfnod pleidleisio, plîs cadwch eich camera ymlaen a pheidio â'i gadael hi'n rhy hwyr i fynegi barn a throi'r camera ymlaen.