Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 2 Mawrth 2021.
Mae ein gwelliannau ni yn grŵp 5 yn ymwneud â dysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion, ac fe fyddai eu pasio nhw yn sicrhau llawer mwy o fanylder, ac yn rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i gaffael iaith ein gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg a dileu Cymraeg ail iaith, a hynny ers 2015. Bydd y continwwm yn sicrhau dilyniant a pharhad yn y dysgu ac addysgu ar draws y cwricwlwm, ac yn arbennig wrth drosglwyddo o ysgolion cynradd i uwchradd. Ond, er eu bod nhw wedi ymrwymo i sefydlu continwwm, dydy o ddim wedi digwydd, a realiti'r sefyllfa ydy na fydd y Bil yma chwaith ddim yn creu un continwwm dysgu Cymraeg. Beth fyddai'r Bil yma yn ei wneud bydd ail-greu ac ail-wreiddio'r sefyllfa bresennol—sefyllfa sydd yn methu. Dwy system gyfochrog sydd gennym ni, a dyna fydd gennym ni oni bai eich bod chi'n derbyn gwelliannau Plaid Cymru heddiw yma.
Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn cytuno â hynny, ac yn dweud fframwaith cyffredinol y cwricwlwm yw symbylu'r newidiadau, yn dweud—. Mae o'n dadlau na fydd fframwaith cyffredinol y cwricwlwm fel mae o yn symbylu'r newidiadau sy'n angenrheidiol. Os bydd y cwricwlwm yn gosod disgwyliadau clir a phendant, bydd gweddill y gyfundrefn addysg yn dilyn ac yn ymaddasu. Ond ni fydd y cwricwlwm yn arwain ar hyn. Y tebygrwydd ydy y bydd y diffygion o safbwynt sgiliau athrawon, o ran capasiti ysgolion, o ran cymwysterau ac adnoddau, yn arwain at gylch diddiwedd fydd yn parhau i lesteirio gwelliant mewn sgiliau Cymraeg disgyblion Cymru.
Mae ein gwelliannau ni yn cynnig dwy ffordd bosib ymlaen. Yn ystod Cyfnod 2, fe wrthododd y Gweinidog ein gwelliant a fyddai wedi sefydlu cod ar ddysgu'r Gymraeg ar un continwwm. Dwi'n dal yn argyhoeddedig mai dyna ydy'r ffordd orau ymlaen, ac mai cod fyddai'r ateb gorau i'r broblem rydym ni'n ceisio ei datrys. Dyna, felly, ydy byrdwn gwelliant 45.
Mae gwelliant 49 yn ychwanegu adran newydd, ac mae gennych chi ddewis yn fan hyn—medrwch chi gefnogi hwn, os hoffech chi, os dydych chi ddim eisiau cefnogi'r cod, neu fedrwch chi gefnogi'r ddau. Ond mi fyddai gwelliant 49 yn ychwanegu adran newydd fyddai'n sefydlu fframwaith y Gymraeg statudol a fyddai'n rhoi arweiniad clir a chanllawiau pellach ar weithredu'r continwwm. Mae dirfawr angen cynnig cefnogaeth ac arweiniad clir i'r sector cyfrwng Saesneg, yn ogystal â'r awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol ac eraill o fewn y system addysg ar sut i weithredu dull continwwm sy'n datblygu sgiliau disgyblion yn y Gymraeg i'r eithaf, fel sy'n digwydd ym mhob maes a phwnc arall. Fe wnaeth y Gweinidog gyfeirio at hyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 29 Ionawr, ac mi wnaeth hi gyfeirio a rhyw led awgrymu bod yna bosibilrwydd y byddai hi o blaid creu fframwaith statudol. Dwi'n edrych ymlaen i weld os ydy hi'n dal o'r un farn. Mi fyddai pasio gwelliant 49 yn sicrhau hynny. Mae'r mudiadau addysg Cymraeg i gyd yn cefnogi sefydlu fframwaith o'r fath, ac maen nhw'n dadlau bod angen hynny ar wyneb y Bil er mwyn sicrhau statws statudol, ac er mwyn rhoi arwydd clir i'r sector addysg ynghylch difrifoldeb Llywodraeth Cymru am sicrhau gweithredu'r continwwm yn effeithiol.
Mae yna gyfle yma i sicrhau bod gwahanol agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r system addysg i sicrhau 1 miliwn o siaradwyr yn cydgysylltu'n glir ac yn drefnus, a bod yna ffordd ymlaen i sicrhau bod 55 y cant o ddisgyblion yn gallu siarad Cymraeg ar ddiwedd eu haddysg statudol yn 2027, a 70 y cant ohonyn nhw erbyn 2050, sef union nod y Llywodraeth hon, wrth gwrs. Mi fyddai fframwaith yn ein galluogi ni i symud tuag at hynny, ac yn arwain at newidiadau sylfaenol i ddulliau dysgu, cynllunio, dilyniant a datblygiad sylweddol o ran addysgeg a sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg. Mae angen canllaw clir statudol ynghylch yr hyn sy'n ddisgwyliedig dros y tymor byr, canolig a hir o ran camau gweithredu a deilliannau, a dyna ydy byrdwn ein gwelliannau ni er mwyn ceisio sicrhau hynny. Diolch.