Part of the debate – Senedd Cymru am 6:54 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf welliant 5. Gweinidog, bydd pwyslais y gwelliannau hyn yn gyfarwydd i chi o Gyfnod 2, ond rydym wedi eu haddasu ychydig i weld a allwn wneud cynnydd yn y fan yma. Mae gwelliannau 5 a 7 i'w darllen gyda'i gilydd, ac yn caniatáu i ysgolion allu gohirio gweithredu'r cwricwlwm am hyd at flwyddyn, ar yr amod—ac mae'n amod mawr—nad oes unrhyw ddisgybl dan anfantais oherwydd y penderfyniad. Yn y bôn, bydd yn rhaid i ysgolion wneud iawn am yr amser coll hwnnw. Nid yw'r gwelliannau hyn yn ceisio gohirio gweithredu'r cwricwlwm fel y cyfryw, a dylai'r ysgolion hynny sy'n gallu gwneud hyn fwrw ymlaen ag ef, ond mae'r gwelliant ar gyfer ysgolion na fyddant yn gallu gwneud hynny. Rwyf yn ymwybodol o'ch pryder y gallai rhai arweinyddion ysgolion weld hyn fel caniatâd i arafu, ac, a dweud y gwir, credaf fod gennym rai penaethiaid sydd mor agos at chwythu'u plwc y byddan nhw o bosibl angen yr amser ychwanegol hwnnw.
Er i chi gytuno yng Nghyfnod 2 fy mod wedi nodi, ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma 'problem wirioneddol', eich ateb oedd mwy o gefnogaeth yn hytrach nag oedi byr i'r rhai a allai fod ei angen. Felly, nid yw wedi bod yn syndod bod y galw am hyfforddiant wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf. Ond yr un peth na all ymrwymiad o fwy o gymorth ei wneud yw creu amser. Mae'r tarfu oherwydd y pandemig wedi ysgogi athrawon i feddwl am bethau mewn ffordd wahanol a bydd llawer wedi galw ar syniadau yn y cwricwlwm newydd i gyflymu cynnydd ar eu sgiliau newydd eu hunain—cymhwysedd digidol a dealltwriaeth o les yw'r rhai amlwg—a bydd eich cynllun gweithredu hefyd yn rhoi rhywfaint o arweiniad newydd. Ond y gwir amdani yw y bydd athrawon yn wynebu 'recriwtio, adfer a chodi safonau' am y dyfodol y gellir ei ragweld. Bydd rhai ysgolion a fydd â niferoedd uchel o'r plant yr effeithir arnynt fwyaf, a bydd angen amser arnyn nhw, nid cymorth yn unig. Mae gormod o'r pryderon hynny a leisiwyd gan athrawon nad oedden nhw yn yr ysgolion cynllun arbrofol, os mynnwch chi, yn dal i fod yno.
Mae gwelliant 12 yn welliant treiddgar syml sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r cwricwlwm. Yng Nghyfnod 2, Gweinidog, fe wnaethoch gadarnhau y bydd adolygiadau rheolaidd. Felly, mae'r gwelliant hwn yma fel cyfle ar gyfer dau beth, mewn gwirionedd: yn gyntaf, fel y gallwch roi rhywfaint o fanylion i ni neu roi sicrwydd i ni sut yr adroddir ar adolygiadau, ac yna, yn bwysig i ni—codwyd hyn yn y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—sut y gallai Aelodau ddylanwadu ar y cwestiynau gwerthuso. Nid yw adroddiadau ar berfformiad y Llywodraeth o fawr o ddefnydd i ni os nad ydyn nhw yn ateb y cwestiynau y mae Aelodau yn ei gredu sydd bwysicaf i etholwyr, ac felly byddai gennyf ddiddordeb yn yr hyn y mae'r Gweinidog ac, mewn gwirionedd, Aelodau eraill yn ei feddwl ynglŷn â'r ffordd ymarferol ymlaen, yn bennaf oherwydd y gallai ddechrau gosod cynsail ar gyfer y ffordd y gellid cynnal adolygiadau mewn meysydd polisi eraill yn y dyfodol. Mae swyddogaeth Aelodau'r Senedd yn eithaf pwysig yn y fan yma, rwy'n credu. Rwy'n gwybod yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mwy neu lai fy mod i wedi eistedd ar ddatganiadau neu wedi gwrando ar ddadleuon ar adroddiadau pryd y meddyliais, 'Doedd dim angen i mi wybod y pethau hyn mewn gwirionedd, ond nid yw'r hyn yr oeddwn i eisiau ei wybod wedi ei gynnwys.' Felly, dyna'r cwbl y mae gwelliant 12 yn ymdrin ag ef. Diolch.