Part of the debate – Senedd Cymru am 7:20 pm ar 2 Mawrth 2021.
Rydyn ni'n cytuno fel grŵp efo'r Llywodraeth fod rhaid i grefydd, gwerthoedd a moeseg fod ar wyneb y Bil fel elfen orfodol er mwyn helpu creu cymdeithas gynhwysol sy'n parchu pob barn a diwylliant a chrefydd. Fyddwn ni, felly, ddim yn cefnogi gwelliannau Darren Millar, a fyddai'n tanseilio hynny, ac ni fyddwn ni chwaith ddim yn cefnogi gwelliannau grŵp 8 Suzy Davies. Mae hon yn ddadl gymhleth, fel rydyn ni wedi clywed, ond rydyn ni'n ymwybodol iawn fod yna lawer o drafod wedi digwydd ynghylch hyn, a dwi'n ymwybodol bod y Llywodraeth wedi ceisio cael consensws ar hyn yn barod ac, felly, yn cefnogi'r safbwynt maen nhw'n ei gymryd heddiw.
Fe ddaru i welliannau Suzy ysgogi trafodaeth ddwys o fewn ein grŵp ni, ac mi fuon ni'n ystyried materion dwfn ac ysbrydol am le ffydd ym mywydau pobl Cymru heddiw. Mae Cymru'n wlad gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth. Mae arfogi ein pobl ifanc ni drwy addysg i ddeall yr amrywiaethau, i ddeall yn llawn natur y gwahanol grefyddau a diwylliannau sy'n rhoi cyfoeth anhygoel i'n gwlad ni, yn gwbl allweddol, ac yn y ffordd hynny fedrwn ni wreiddio gwerthoedd sy'n parchu amrywiaeth crefyddol a diwylliannol yn y Gymru fodern. Diolch, Llywydd.