Part of the debate – Senedd Cymru am 7:30 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac a gaf i, yn gyntaf oll, ddiolch i Siân Gwenllian am ei chydnabyddiaeth o'r gwaith aruthrol sydd wedi mynd i mewn i'r rhan hon o'r cwricwlwm, ac am iddi hi a Phlaid Cymru ddeall pam y mae'r gwersi hyn mor angenrheidiol os ydym ni am gyflawni dibenion ein cwricwlwm? Mae'n gwbl briodol bod plant yn dysgu am fyd lle bydd gan bobl amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol ac y byddan nhw, o bosibl, yn byw eu bywydau drwy lynu wrth gyfres o werthoedd neu foesau. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gan bob un o'n plant fynediad at addysg o'r math hwn.
A gaf i ddechrau gyda gwelliannau 13 i 17? Byddai'r rhain yn diwygio'r Bil fel y byddai'n rhaid cynllunio crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgol o gymeriad crefyddol gan roi sylw i weithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol, yn hytrach na bod yn unol â hwy, a byddai hyn o bosibl yn galluogi ysgolion o gymeriad crefyddol i ddarparu un cwrs astudio ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n rhoi sylw i faes llafur cytunedig a gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol. Wrth ddileu'r gofyniad ar yr ysgolion hyn i ddylunio crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol sy'n cyd-fynd â'u gweithredoedd ymddiriedolaeth, fodd bynnag, mae'r gwelliant yn creu'r posibilrwydd y bydd ysgolion o'r fath yn torri eu gweithredoedd ymddiriedolaeth. Mewn geiriau eraill, efallai y bydd tensiwn rhwng yr hyn y mae gweithred ymddiriedolaeth yn gofyn amdano a'r hyn y gallai fod y maes llafur cytunedig yn gofyn amdano. Gellir datrys y tensiwn hwnnw os caiff dau faes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg eu cynllunio ar wahân ac yn unol â gofynion presennol y Bil, ond ni ellir datrys y tensiynau o reidrwydd o fewn maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg unigol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gweld y gweithredoedd ymddiriedolaethau ysgolion hynny ac felly ni allwn fod yn sicr beth sy'n ofynnol arnynt. O'r herwydd, ni allwn ddeddfu i'w gwneud yn ofynnol i ysgolion sydd â chymeriad crefyddol baratoi un maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n ystyried maes llafur cytunedig a gweithredoedd ymddiriedolaeth yr ysgol, gan na allwn fod yn sicr y byddai'n bosibl i'r ysgolion gydymffurfio â'r math hwn o ofyniad. Byddai'r gwelliant hwn yn cyflwyno disgresiwn nad oes gan ysgolion o'r fath o dan y ddeddfwriaeth bresennol, nac o dan y Bil fel y'i drafftiwyd, i wyro oddi wrth eu gweithredoedd ymddiriedolaeth wrth addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg. Gallai hynny olygu bod ysgolion o'r fath yn darparu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn groes i'w gweithredoedd ymddiriedolaeth, ac nid yw hyn yn rhywbeth y byddwn yn dymuno ei hwyluso. Cyflwynwyd gwelliannau'r Llywodraeth i Atodlen 1 y Bil yng Nghyfnod 2 ar ôl trafodaethau hir iawn gyda'n partneriaid yn yr Eglwys yng Nghymru a'r Gwasanaeth Addysg Gatholig i fynd i'r afael â'u pryderon yn y maes hwn, ac mae'r partneriaid hyn wedi hysbysu Llywodraeth Cymru bod y gwelliannau hyn yn mynd i'r afael â'u prif bryderon. Felly, byddwn yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio yn erbyn y gwelliannau penodol hynny.
Gan symud at welliannau 23, 25, 27 a 29, nod y rhain yw sicrhau nad oes rhaid i ysgol neu awdurdod lleol dalu'r costau ar gyfer darparu crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol mewn ysgolion ffydd gwirfoddol a reolir pan ofynnir am hynny gan rieni, na maes llafur cytunedig crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgolion ffydd gwirfoddol a gynorthwyir pan ofynnir am hynny gan y rhieni. Fodd bynnag, nid ydynt yn esbonio sut y dylid talu'r costau hyn. Nid wyf yn cytuno y dylai costau'r math hwn o ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg gael eu trin yn wahanol i gostau mathau eraill o ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg.
Mae'r Bil yn parchu swyddogaeth ysgolion sydd â chymeriad crefyddol mewn addysg wedi'i mandadu gan y wladwriaeth, ac yn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn unol â'u gweithredoedd ymddiriedolaeth neu ddaliadau eu ffydd. Nid oes rheidrwydd ar y wladwriaeth i ddarparu crefydd, gwerthoedd a moeseg seiliedig ar ffydd yn unol â dymuniadau rhieni yng nghyfraith y DU nac yn y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mater i ysgolion o gymeriad crefyddol yw hwn.
Fodd bynnag, mae'r Bil yn sicrhau y bydd gan bob dysgwr fynediad at grefydd, gwerthoedd a moeseg amlblwyfol pan fo eisiau hynny, ac mae rhwymedigaeth ar y wladwriaeth i wneud hynny, a dyna sy'n ofynnol gan y gyfraith bresennol. Fel y dywedais, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Addysg Gatholig a'r Eglwys yng Nghymru ynghylch y ddau faes llafur wrth ddatblygu'r Bil, a chytunais yng Nghyfnod 2 y bydd y maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol y bydd angen i ysgolion o gymeriad crefyddol ei ddarparu erbyn hyn yn un sydd wedi'i gynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig, yn hytrach nag yn unol ag ef. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion o gymeriad crefyddol gael mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu eu maes llafur. Mae hefyd yn rhoi dewis i ysgolion o gymeriad crefyddol weithio gydag ysgolion cyfagos i gyflwyno crefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.