Part of the debate – Senedd Cymru am 8:09 pm ar 2 Mawrth 2021.
Does gen i ddim siaradwyr yn y ddadl yma, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Gweinidog eisiau cyfrannu eto. Felly, dwi'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn gwelliant 31? A oes gwrthwynebiad i hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad. Felly, fe wnawn ni gynnal pleidlais ar welliant 31. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, a phump yn erbyn, felly mae gwelliant 31 wedi'i dderbyn.