1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2021.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau? OQ56355
Llywydd, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn creu cyfleoedd newydd i annog a galluogi amrywiaeth ehangach mewn gwneud penderfyniadau. Bydd yr adeg unigol fwyaf arwyddocaol o gyfranogiad dinasyddion eleni yn dod yn etholiadau'r Senedd, pan fydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cymryd rhan am y tro cyntaf.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ystyried erbyn hyn bod arloesi a pholisi cyhoeddus yn bwysig iawn ac yn angenrheidiol i gynnwys cyfranogiad dinasyddion, ac, yn wir, mae'n un o'r ffactorau allweddol yn ei fynegai llesiant. Ac a ydych chi'n cytuno â mi, ymhellach i'r ddeddfwriaeth hon, bod yr amser bellach wedi dod i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfranogiad dinasyddion gan ba blaid bynnag sydd mewn sefyllfa i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru?
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno â David Melding nad yw cyfranogiad dinasyddion yn rhywbeth i'w ystyried fel digwyddiad untro mewn etholiad, ond bod angen iddo redeg drwy dymor cyfan gweinyddiaeth. Mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn falch iawn o weithio yn agos gyda'r OECD ar nifer o wahanol ddimensiynau polisi, yn bwysicaf oll yn ddiweddar ochr yn ochr â'r gwaith y mae ein cyd-Aelod Huw Irranca-Davies wedi ei arwain ar bolisi economaidd rhanbarthol i Gymru, ac mae cyfranogiad dinasyddion yn sicr, fel y mae David Melding yn ei ddweud, Llywydd, yn un o elfennau allweddol y dyfodol a gynlluniwyd ar ein cyfer gan yr OECD.
Mae Deddf 2021, Llywydd, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddatblygu cynllun cyfranogiad y cyhoedd, ac, ochr yn ochr â hwnnw, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth drwy ein cronfa democratiaeth ddigidol, drwy ein cronfa amrywiaeth mewn democratiaeth, y mae'r ddwy ohonyn nhw wedi'u cynllunio i hybu cyfranogiad dinasyddion. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae David Melding wedi ei ddweud y dylai Llywodraeth newydd, pwy bynnag a allai fod yn ffurfio'r Llywodraeth honno, wneud ymgysylltu â dinasyddion yn ganolog i bopeth yr ydym ni'n ei wneud fel thema sy'n rhedeg drwy gydol tymor nesaf y Senedd.
Dim ond os yw'r demos, neu'r bobl yn cymryd rhan y mae democratiaeth yn gweithio yn iawn. Dros y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd y pandemig, mae mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o ddatganoli, ond mae'r cynnydd hwnnw yn fregus. Does bosib nad oes angen gweithredu nawr i wneud yn siŵr nad yw pobl yn ymwybodol o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y fan yma yn unig, ond eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cymryd rhan. Prif Weinidog, os edrychwn ni ar bobl ifanc, mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed gyfle cyffrous eleni i bleidleisio am y tro cyntaf, ond mae addysg wleidyddol yn dal i fod yn bwnc nad yw'n ofynnol yn y cwricwlwm. Yn y blynyddoedd nesaf, byddwn innau hefyd wrth fy modd yn gweld mwy o gynulliadau dinasyddion i bobl ifanc i hyrwyddo ymgysylltiad, ond mae eleni angen gweithredu nawr. Mae disgyblion yn cael eu hyfforddi am lywodraethu Tuduraidd, ond nid yw'r system a ddefnyddir heddiw i ethol y Llywodraeth bob amser yn cael ei hegluro yn iawn. Felly, a ydych chi'n credu bod cyfle yn y diwrnod ysgol eleni i sicrhau y bydd pob pleidleisiwr tro cyntaf yn cael dysgu am hyn cyn yr etholiad, ac, yn y tymor hwy, oni ddylai fod yn ofynnol addysgu addysg wleidyddol?
Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno bod cyfle gwirioneddol, wrth i ni symud tuag at yr etholiad, i wneud yn siŵr bod cyfleoedd yn cael eu cymryd i addysgu ein pobl ifanc ar y broses ddemocrataidd a'r rhan bwysig iawn y gallan nhw eu hunain ei chwarae ynddi. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan yn hynny, ochr yn ochr â Chomisiwn y Senedd, ochr yn ochr â'r Comisiwn Etholiadol. Rydym ni'n cymryd rhan gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod adnoddau ar gael i bobl ifanc, drwy Hwb a dulliau eraill, fel bod y bobl ifanc 16 ac 17 oed hynny a fydd yn ymuno â ni wrth y blwch pleidleisio eleni yn cael pob cyfle sydd ei angen arnyn nhw i ddeall y cyfrifoldebau a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Ond mae'n mynd yn ehangach na hynny, fel yr wyf i'n siŵr y bydd Delyth Jewell yn ei gydnabod. Mwynheais yn arw yr wythnos diwethaf fy sgwrs gyda myfyrwyr Ysgol y Castell yng Nghaerffili. Ac yno, yn naw, yn 10 ac yn 11 oed, mae gennych chi ddinasyddion ifanc sydd â diddordeb llwyr yn nyfodol eu gwlad, mewn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ynddi. A bydd y system sydd gennym ni o gynghorau ysgol a chyfranogiad pobl ifanc mewn addysg yng Nghymru, rwy'n credu, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn fel cenedl, wrth i'r bobl ifanc hynny ddod i aeddfedrwydd a chwarae eu rhan eu hunain yn ein democratiaeth.
Rydym ni'n dweud ein bod ni eisiau hybu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau, ond, Prif Weinidog, chwe mis yn ôl, nid oedd pedwar o bob 10 o bobl a holwyd yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli, neu'n credu ei fod yn cael ei redeg gan San Steffan, y mae eich plaid chi yn camfanteisio arno yn etholiadau'r DU. Oni fyddai'n well pe byddem ni'n symleiddio'r broses o wneud penderfyniadau drwy ddiddymu ein haen ddiangen o Lywodraeth?
Llywydd, nid wyf i'n credu hynny.