Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 2 Mawrth 2021.
Wel, rwy'n rhyfeddu at yr ateb yna, oherwydd rydych chi'n treulio wythnos ar ôl wythnos yn trafod pwyntiau nad oes gennych chi gyfrifoldeb amdanyn nhw. Ond un maes y mae gennych chi gyfrifoldeb amdano yw'r dreth gyngor, Prif Weinidog, a cheir swm enfawr o gyllid canlyniadol sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU—gwerth £5.8 biliwn o gymorth. Mae argyfwng costau byw yn datblygu nawr, wrth i'r argyfwng COVID hwn daro'r economi yn galed iawn. Un mesur y gallech chi ei gymryd i helpu gyda'r dreth gyngor yw ei rhewi yma yng Nghymru i helpu teuluoedd ar hyd a lled Cymru. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio'r pwerau sydd gennych chi i rewi'r dreth gyngor a defnyddio'r symiau canlyniadol i ariannu'r bwlch cyllido?