1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 2 Mawrth 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae Llafur fel gamblwr sy'n betio popeth ar ennill grym yn San Steffan bob pum mlynedd—dyna farn maer Llafur Manceinion, Andy Burnham. Prif Weinidog, onid dyna fu hanes gwleidyddiaeth Cymru am y 100 mlynedd diwethaf?
Wel, Llywydd, yn amlwg, nid yw'n ddisgrifiad o wleidyddiaeth Cymru dros y 100 mlynedd diwethaf mewn unrhyw ffordd, neu fel arall sut byddem ni'n siarad heddiw yn y sefydliad sydd gennym ni yma yng Nghymru, Senedd rymus sydd ag annibyniaeth gweithredu, gyda phwerau deddfu sylfaenol? Pe byddai gosodiad cychwynnol yr Aelod yn wir, yna ni fyddai dim o hynny yn wir.
Disgrifiwyd annibyniaeth gennych heddiw yn The National, Prif Weinidog, fel ymateb pedwaredd ganrif ar bymtheg i broblem unfed ganrif ar hugain, gan fynd ymlaen i gynnig rheolaeth gartref yn hytrach na hynny, syniad o'r 1880au. Y broblem yw na fydd rheolaeth gartref byth yn datrys y broblem sylfaenol yn niffyg democrataidd Cymru. Fel y dywedodd pennaeth Llafur dros IndyWales, Bob Lloyd, ddoe yn y Daily Express:
Dros y 100 mlynedd diwethaf mae Cymru wedi pleidleisio dros blaid sosialaidd mewn etholiadau domestig, ac eto nid yw wedi cael yr hyn y mae wedi gofyn amdano.
Ac os nad ydych chi'n cytuno â Bob Lloyd, a wnewch chi o leiaf gydnabod bod gan Sam Pritchard, cadeirydd Plaid Gydweithredol Cymru, y mae llawer o'ch cyd-Aelodau yn y Senedd yn perthyn iddi, rywfaint o resymeg i'w ddadl mai annibyniaeth yw'r ffordd orau o sicrhau cymdeithas fwy cyfartal, oherwydd ni fyddai Cymru wedi ei rhwymo gan batrymau pleidleisio pobl yn ne Lloegr. Nid ydym ni erioed wedi pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru, ac eto rydym ni wedi cael Llywodraethau Torïaidd ddwy ran o dair o'r amser. A oes unrhyw reswm i gredu y bydd hynny yn wahanol yn y dyfodol?
Yr hyn y byddwn i'n ei weld yn wahanol yn y dyfodol, Llywydd, yw ymwreiddio'r setliad presennol fel na all unrhyw Lywodraeth yn San Steffan ei ddiddymu yn unochrog. Rwyf i eisiau setliad newydd i'r undeb fel bod lle Cymru ynddo yn cael ei barchu yn llawn a bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar sail pedair gwlad yn cael eu gwneud ar sail cyfranogiad cyfartal, lle na all unrhyw un sy'n rhan o hynny drechu trwy bleidlais neu ddefnyddio ei awdurdod i orfodi ei hun ar eraill. Yn hynny o beth, fy marn i a barn fy mhlaid yn y Senedd hon fydd barn y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, oherwydd yr hyn y mae'r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru o'i blaid yw rheolaeth gartref yn yr ystyr mai dim ond yma yng Nghymru y bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng Nghymru am Gymru yn cael eu gwneud, ond nad ydym ni'n torri ein hunain oddi wrth bopeth y gallwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd trwy gymdeithas wirfoddol pedair gwlad ar draws y DU. Dyna y mae pobl Cymru yn ei ffafrio. Dyna mae fy mhlaid i wedi sefyll drosto erioed.
Ddoe, wfftiodd eich cydweithiwr Chris Bryant AS, gefnogwyr annibyniaeth fel 'plentynnaidd'. Rydych chi eich hun wedi awgrymu bod cefnogwyr annibyniaeth Cymru yn fewnblyg ac yn 'adain dde yn eu hanfod'. Wrth i arolygon diweddar ddangos bod mwy na hanner pleidleiswyr Llafur o blaid annibyniaeth erbyn hyn, a bod y gefnogaeth honno ar ei huchaf ymhlith ein pobl ifanc, ar y cwestiwn cenedlaethol, onid y mudiad annibyniaeth, yn hytrach na chi, Prif Weinidog, sy'n edrych nid at yn ôl ond ymlaen at ddyfodol ein gwlad?
Llywydd, croesawaf unrhyw un sydd eisiau trafod dyfodol ein gwlad, a dylid trin pob barn yn briodol a chyda pharch. Fy marn i yw'r un yr wyf i newydd ei hesbonio i chi, ac rwy'n credu ei bod yn farn y mae'r rhan fwyaf o bobl flaengar yn y wlad hon yn ei rhannu. Nid ydyn nhw eisiau cenedlaetholdeb mewnblyg. Nid ydyn nhw eisiau dyfodol i'n gwlad lle'r ydym ni'n cael ein rhwygo allan o'r Deyrnas Unedig. Maen nhw eisiau dyfodol i'n gwlad lle mae gan Gymru gyfres rymus o alluoedd i wneud penderfyniadau drosom ein hunain ar y pethau sy'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru, ond maen nhw hefyd eisiau gallu cydweithio, ar y cyd, ochr yn ochr â phobl flaengar mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, boed hynny yn ne Lloegr neu ogledd Lloegr neu yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, lle gall pobl flaengar ddod at ei gilydd i rannu agenda yn wirfoddol. Rydym ni'n cyflawni mwy gyda'n gilydd nag yr ydym ni ar wahân. Dyna fy marn i, a dyna fydd y farn y bydd Plaid Lafur Cymru yn ei mynegi yn yr etholiad hwn. Bydd yr Aelod yn parhau i wneud ei ddadl i dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Mae ganddo hawl i wneud hynny, yn sicr, ond rwy'n credu y bydd yn canfod, unwaith eto, mai llais lleiafrifol yw hwnnw yma yng Nghymru, a bod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn parhau i gredu mai mewn sefydliadau grymus yma yng Nghymru y mae dyfodol ein gwlad, mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Prif Weinidog. Wrth ymgyrchu i fod yn arweinydd y blaid Lafur, addawodd Keir Starmer i wrthdroi toriadau'r Torïaid i'r dreth gorfforaeth a dywedodd na fyddai unrhyw gamu yn ôl o egwyddorion craidd Llafur. Yr wythnos hon, dywedodd Keir Starmer ei fod yn gwrthwynebu cynnydd i'r dreth gorfforaeth. Pa safbwynt ydych chi'n ei gefnogi, Prif Weinidog?
Llywydd, nid wyf i'n gyfrifol am y dreth gorfforaeth, ac nid wyf i'n bwriadu trafod safbwyntiau ar faterion nad oes gen i, fel Prif Weinidog, unrhyw atebolrwydd i'r Senedd amdanyn nhw.
Wel, rwy'n rhyfeddu at yr ateb yna, oherwydd rydych chi'n treulio wythnos ar ôl wythnos yn trafod pwyntiau nad oes gennych chi gyfrifoldeb amdanyn nhw. Ond un maes y mae gennych chi gyfrifoldeb amdano yw'r dreth gyngor, Prif Weinidog, a cheir swm enfawr o gyllid canlyniadol sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU—gwerth £5.8 biliwn o gymorth. Mae argyfwng costau byw yn datblygu nawr, wrth i'r argyfwng COVID hwn daro'r economi yn galed iawn. Un mesur y gallech chi ei gymryd i helpu gyda'r dreth gyngor yw ei rhewi yma yng Nghymru i helpu teuluoedd ar hyd a lled Cymru. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio'r pwerau sydd gennych chi i rewi'r dreth gyngor a defnyddio'r symiau canlyniadol i ariannu'r bwlch cyllido?
Llywydd, yr hyn yr wyf i'n ymrwymo iddo yw aros tan fod cyllideb yfory allan o'r ffordd a'n bod ni'n sicr ynghylch faint o arian sydd gennym ni ar gael i ni yma yng Nghymru i'w ddefnyddio y flwyddyn nesaf. Byddwn wedyn yn ystyried at ba ddibenion y gellid ei ddefnyddio. Rwy'n credu yr wythnos diwethaf bod yr Aelod yn fy annog i ddefnyddio'r arian hwnnw i gynorthwyo busnesau yma yng Nghymru. Heddiw, mae eisiau i mi rewi'r dreth gyngor. Rwy'n deall pam mae eisiau gwneud hynny, oherwydd gorfodwyd y cynnydd mwyaf yn y dreth gyngor yng Nghymru y llynedd, wrth gwrs, gan gyngor Conwy dan reolaeth y Ceidwadwyr. Felly, os yw'n gofyn i mi amddiffyn talwyr y dreth gyngor yng Nghymru rhag y Blaid Geidwadol, byddaf yn meddwl am hynny yn ofalus iawn.
Wel, mae gennym ni Capten Ôl-ddoethineb yn San Steffan a'r Athro Gwneud Ychydig i lawr yma yn y bae, nad yw'n barod i wneud unrhyw beth gyda'r pwerau sydd ganddo i helpu teuluoedd sydd o dan bwysau ar hyd a lled Cymru. Un cam y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig, serch hynny, yw cyflwyno parthau perygl nitradau. Dim ond yr wythnos diwethaf, soniodd eich arweinydd yn San Steffan am gynorthwyo ffermwyr, yng nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, am y gwaith gwych y maen nhw wedi ei wneud, yr holl ffordd drwy'r pandemig, yn bwydo'r genedl. Y bore yma, mae Aelodau wedi cael llythyr gan Glanbia, prosesydd llaeth mawr, yn dweud pa mor niweidiol y gallai'r rheoliadau fod i gyflenwadau o laeth ffres yma yng Nghymru yn y dyfodol, a sut y byddai'n ddigon posibl y bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried adleoli eu cyfleusterau cynhyrchu neu ad-drefnu eu gweithrediadau yma yng Nghymru. Mae eich Gweinidog eich hun wedi sefyll ar lawr y Cyfarfod Llawn a, dro ar ôl tro—o leiaf saith gwaith—dywedodd na fyddai'n gweithredu'r rheoliadau hyn tra bod y pandemig yn ei anterth. Yn y pen draw, mae'r rheoleiddwyr hefyd yn bwrw golwg ar y rheoliadau hyn drwy ddweud y bydd ganddyn nhw ganlyniadau gwrthnysig. Felly, yn hytrach na chadw'r ffugenw 'Yr Athro Gwneud Ychydig', a wnewch chi ymyrryd nawr a gwneud yn siŵr nad yw'r rheoliadau hyn yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn cael effaith mor niweidiol ar y gyflenwad o gynnyrch da, iachus o Gymru, ac, yn y pen draw, effaith ddinistriol ar y diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru?
Llywydd, edrychaf ymlaen at bleidleisio o blaid y rheoliadau ar lawr y Senedd yfory. Byddan nhw'n cefnogi'r ffermwyr hynny nad ydyn nhw'n llygru ein tir. Byddan nhw'n cefnogi'r ffermwyr hynny sy'n deall bod eu henw da a'u hincwm yn y dyfodol yn dibynnu ar eu gallu i ddangos bod y safonau amaethyddiaeth yma yng Nghymru ymhlith yr uchaf. Byddan nhw'n gwneud eu cyfraniad sy'n gwbl angenrheidiol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng amgylcheddol sy'n ein hwynebu. Nid fi yw'r person sydd eisiau gwneud ychydig, neu, yn ei achos ef, gwneud dim, i droi'r llanw llygredd amaethyddol yn ôl. Bydd ei blaid yn pleidleisio o blaid llygredd parhaus yma yng Nghymru yfory. Mae fy mhlaid i yn benderfynol y byddwn ni'n cymryd y camau sy'n angenrheidiol, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio unioni hyn drwy ddulliau gwirfoddol. Byddwn yn cynorthwyo'r ffermwyr hynny sy'n gwneud y peth iawn eisoes drwy gosbi'r rhai sy'n llygru ein tir, ein dŵr a'n hamgylchedd yn gyson ac yn fwriadol, a dylai'r Aelod fod â chywilydd o'r ffaith ei fod, wythnos ar ôl wythnos, yn dod yma i wneud hyn yn brif flaenoriaeth wrth ofyn cwestiynau i mi, pan allai yntau chwarae ei ran hefyd, yn hytrach nag ymarfer siarad gwag, i wneud rhywbeth ymarferol i helpu'r genedl hon i gynorthwyo'r ffermwyr hynny sy'n gwneud y peth iawn eisoes a gwneud y cyfraniad y mae angen i ni ei wneud i sicrhau dyfodol y rhan hardd ond bregus hon o'n planed.