Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:47, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Disgrifiwyd annibyniaeth gennych heddiw yn The National, Prif Weinidog, fel ymateb pedwaredd ganrif ar bymtheg i broblem unfed ganrif ar hugain, gan fynd ymlaen i gynnig rheolaeth gartref yn hytrach na hynny, syniad o'r 1880au. Y broblem yw na fydd rheolaeth gartref byth yn datrys y broblem sylfaenol yn niffyg democrataidd Cymru. Fel y dywedodd pennaeth Llafur dros IndyWales, Bob Lloyd, ddoe yn y Daily Express:

Dros y 100 mlynedd diwethaf mae Cymru wedi pleidleisio dros blaid sosialaidd mewn etholiadau domestig, ac eto nid yw wedi cael yr hyn y mae wedi gofyn amdano.

Ac os nad ydych chi'n cytuno â Bob Lloyd, a wnewch chi o leiaf gydnabod bod gan Sam Pritchard, cadeirydd Plaid Gydweithredol Cymru, y mae llawer o'ch cyd-Aelodau yn y Senedd yn perthyn iddi, rywfaint o resymeg i'w ddadl mai annibyniaeth yw'r ffordd orau o sicrhau cymdeithas fwy cyfartal, oherwydd ni fyddai Cymru wedi ei rhwymo gan batrymau pleidleisio pobl yn ne Lloegr. Nid ydym ni erioed wedi pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru, ac eto rydym ni wedi cael Llywodraethau Torïaidd ddwy ran o dair o'r amser. A oes unrhyw reswm i gredu y bydd hynny yn wahanol yn y dyfodol?